Mater - cyfarfodydd

Updated Pay Policy Statement for 2020/21

Cyfarfod: 20/10/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 19)

19 Datganiad Diwygiedig ar Bolisiau tal ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Mae'n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisiau Tal erbyn mis Ebrill bob blwyddyn.  Y Datganiad ar Bolisiau Tal a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw'r wythfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Ddatganiad ar Bolisïau Tâl blynyddol ar gyfer 2020/21 gan grynhoi’r ymagwedd bresennol tuag at gyflog a thâl mewn cyd-destun sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n rwymedigaeth statudol i gyhoeddi’r Datganiad ar Bolisïau Tâl bob blwyddyn cyn dyddiad cau penodol. Cafodd yr Archwiliad Cyflog Cyfartal diweddaraf ei rannu er gwybodaeth hefyd.

 

Dywedodd yr Uwch-Reolwr ar gyfer Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol bod rhai rhannau wedi cael eu hailysgrifennu er mwyn gwella llif yr adroddiad a bod gohiriad yr adroddiad yn gynharach eleni wedi galluogi i ddata dyfarniad cyflog 2020 gael ei gynnwys yn ogystal â newidiadau cenedlaethol.Rhoddodd drosolwg o’r prif newidiadau yn cynnwys rhan ychwanegol ar derfyn ar daliadau gadael y sector cyhoeddus a chadarnhaodd y byddai’r rhain yn cael eu gweithredu ar 4 Tachwedd 2020. Bydd rhagor o wybodaeth am yr effaith ar yr awdurdod yn cael ei rannu maes o law.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mullin a Palmer, a diolchodd y ddau i’r tîm am eu gwaith.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at drafodaeth yn y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd am ymatebion amserol swyddogion i ymholiadau Aelodau gan ofyn a oedd hyn yn ystyriaeth yng ngwerthusiadau blynyddol a chanol blwyddyn Prif Swyddogion.Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn gyfrifol am gynnal gwerthusiadau pob Prif Swyddog oedd yn ymdrin ag amcanion perfformiad ar gyfer y portffolios perthnasol. Fe ailadroddodd y cyngor y dylai unrhyw faterion o dan berfformio gael eu hadrodd naill ai iddo fo neu’r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, fel y nodir yn y protocol y cytunwyd, er mwyn iddynt gymryd camau priodol.

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2020/21 yn cael ei gymeradwyo a bod yr Archwiliad Cyflog cyfartal yn cael ei nodi.