Mater - cyfarfodydd

Constitutional Matters: Committees

Cyfarfod: 09/09/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 5)

5 Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau pdf icon PDF 117 KB

Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried.

 

 (i)       Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol:

 

  • Pwyllgor Archwilio;
  • Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;
  • Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;
  • Pwyllgor Cwynion;
  • Pwyllgor Apeliadau Cwynion;
  • Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu;
  • Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau);
  • Pwyllgor Trwyddedu;
  • Pwyllgor Cynllunio;
  • Pwyllgor Safonau; 

 

Yn ogystal, roedd y Cyfansoddiad yn caniatáu ar gyfer penodi 6 Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. Yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2020, cytunodd y Cyngor i leihau’r nifer hwnnw i 5 yn y Cyfarfod Blynyddol. Mae’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu diwygiedig i’w gweld isod.   

 

  • Y Gymuned, Tai ac Asedau
  • Adnoddau Corfforaethol
  • Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
  • Yr Amgylchedd a’r Economi
  • Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 

 

Nodwyd y cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn Atodiad 1, fodd bynnag, eglurodd y Prif Swyddog fod angen gwneud diwygiad pellach i’r cylch gorchwyl gan fod Cynllunio Rhag Argyfwng, a’r Bartneriaeth Trosedd ac Anhrefn wedi cael eu cynnwys dan gwmpas y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi trwy gamgymeriad ac roedd angen eu symud i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Archwilio

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Y Gymuned, Tai ac Asedau

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgor Safonau

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

 

 (ii)       Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yr oedd y Cyngor wedi’i benodi yn y Cyfarfod Blynyddol.  Yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, penderfynodd y Cyngor y dylid cael datrysiad cydbwysedd gwleidyddol newydd sy’n cyflawni gostyngiad cyffredinol yn nifer y lleoedd pwyllgor tra’n parhau i ddarparu ar gyfer cynrychiolaeth yr holl grwpiau gwleidyddol ar bwyllgorau mawr y Cyngor. Nodwyd manylion y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad (yn amodol ar y cywiriadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fel yr eglurwyd yn yr eitem ar Benodi Pwyllgorau).

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod maint pob pwyllgor yn unol â’r hyn a nodwyd ym mharagraffau 1.03 ac 1.04 yr adroddiad.

 

 (iii)      Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgorau a benodwyd ganddo. Dywedodd fod cylch gorchwyl y Pwyllgorau presennol wedi’i nodi yn y Cyfansoddiad. Roedd y cylch gorchwyl ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 5