Mater - cyfarfodydd
Constitutional Matters: Committees
Cyfarfod: 09/09/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 5)
5 Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau PDF 117 KB
Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - OSC Terms of Reference, eitem 5 PDF 61 KB
- Appendix 2 - Political Balance Calculations, eitem 5 PDF 47 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau
Cofnodion:
Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried.
(i) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol:
- Pwyllgor Archwilio;
- Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;
- Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;
- Pwyllgor Cwynion;
- Pwyllgor Apeliadau Cwynion;
- Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu;
- Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau);
- Pwyllgor Trwyddedu;
- Pwyllgor Cynllunio;
- Pwyllgor Safonau;
Yn ogystal, roedd y Cyfansoddiad yn caniatáu ar gyfer penodi 6 Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. Yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2020, cytunodd y Cyngor i leihau’r nifer hwnnw i 5 yn y Cyfarfod Blynyddol. Mae’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu diwygiedig i’w gweld isod.
- Y Gymuned, Tai ac Asedau
- Adnoddau Corfforaethol
- Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
- Yr Amgylchedd a’r Economi
- Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Nodwyd y cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn Atodiad 1, fodd bynnag, eglurodd y Prif Swyddog fod angen gwneud diwygiad pellach i’r cylch gorchwyl gan fod Cynllunio Rhag Argyfwng, a’r Bartneriaeth Trosedd ac Anhrefn wedi cael eu cynnwys dan gwmpas y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi trwy gamgymeriad ac roedd angen eu symud i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
Cymeradwyodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:
Pwyllgor Archwilio
Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Y Gymuned, Tai ac Asedau
Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau)
Pwyllgor Trwyddedu
Pwyllgor Cynllunio
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Pwyllgor Safonau
Pwyllgor Cwynion
Pwyllgor Apeliadau Cwynion
Pwyllgor Apeliadau
Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu
(ii) Pennu maint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yr oedd y Cyngor wedi’i benodi yn y Cyfarfod Blynyddol. Yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, penderfynodd y Cyngor y dylid cael datrysiad cydbwysedd gwleidyddol newydd sy’n cyflawni gostyngiad cyffredinol yn nifer y lleoedd pwyllgor tra’n parhau i ddarparu ar gyfer cynrychiolaeth yr holl grwpiau gwleidyddol ar bwyllgorau mawr y Cyngor. Nodwyd manylion y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad (yn amodol ar y cywiriadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fel yr eglurwyd yn yr eitem ar Benodi Pwyllgorau).
PENDERFYNWYD:
Bod maint pob pwyllgor yn unol â’r hyn a nodwyd ym mharagraffau 1.03 ac 1.04 yr adroddiad.
(iii) Cylch Gorchwyl Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgorau a benodwyd ganddo. Dywedodd fod cylch gorchwyl y Pwyllgorau presennol wedi’i nodi yn y Cyfansoddiad. Roedd y cylch gorchwyl ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 5