Mater - cyfarfodydd

Care Inspectorate Wales (CIW) Annual Performance Review Letter 2019/20

Cyfarfod: 22/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 8)

8 Llythyr Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru 2019/20 pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn i hysbysu’r  o gynnwys Llythyr Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru diweddar a gyhoeddwyd ar 2 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am gynnwys llythyr Perfformiad Blynyddol diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar 2 Gorffennaf 2020. Roedd y llythyr yn seiliedig ar dystiolaeth a data perfformiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod trwy gydol y flwyddyn, ynghyd â chanlyniadau o archwiliadau, gweithgareddau â ffocws a ffurflenni hunanwerthuso.Yn sgil yr argyfwng cenedlaethol, ni fu hi’n bosibl cynnal cyfarfod adolygiad perfformiad blynyddol rhwng Arolygiaeth Gofal Cymru a swyddogion.

 

Ymysg yr uchafbwyntiau yn yr adroddiad, fe siaradodd yr Uwch Reolwr:Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion am lwyddiant ‘Prosiect Search’ sef rhaglen cefnogi gwaith ar gyfer pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am y potensial o gynnal adolygiadau ar-lein gyda phlant sy'n derbyn gofal yn defnyddio platfform megis ‘Zoom’. Dywedodd yr Uwch Reolwr:Plant fod cyfarfodydd digidol yn cael eu defnyddio’n fwy aml a’u bod yn boblogaidd iawn ymysg y plant eu hunain.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at gwestiwn cynharach a chadarnhaodd fod y panel maethu yn parhau fel arfer.O ran casgliadau’r Llythyr Perfformiad Blynyddol, fe groesawodd yr adborth cadarnhaol a llongyfarchodd y tîm am safon y gwasanaethau.Gan ymateb i ymholiadau, rhoddodd yr Uwch Reolwr:Plant sicrwydd i Aelodau am gryfder a safon y cyngor a roddwyd gan y tîm Cyfreithiol, ac nid oedd ganddo unrhyw bryderon.Fe siaradodd hefyd am roi plant mewn lleoliadau heb eu rheoleiddio a oedd wedi dod yn broblem cenedlaethol cynyddol yn ystod y cyfnod o argyfwng. Fe soniodd am enghreifftiau o sefyllfaoedd lle nad oedd modd osgoi sefyllfa o’r fath gan fod pob dewis arall wedi’i archwilio a diffyg argaeledd ar y pryd, a’r holl fesurau diogelu oedd ar waith i gefnogi’r unigolyn.  Roedd trafodaethau wrthi’n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru am y posibilrwydd y gallai’r Cyngor sefydlu ei leoliadau ei hun wedi eu rheoleiddio i allu derbyn plant mewn cyfnod o argyfwng.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymateb cynhwysfawr gan swyddogion.Yn dilyn adborth cadarnhaol gan Aelodau yn canmol tîm y Gwasanaethau Cymdeithasol, gofynnodd bod yr Hwylusydd yn ysgrifennu llythyr ffurfiol ar ran y Pwyllgor i ddiolch i’r Prif Swyddog a’i dîm.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Wisinger a Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau â chynnwys llythyr Perfformiad Blynyddol ac asesiad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad yr awdurdod yn ystod blwyddyn 2019/20;

 

 (b)      Bod yr oedi yng Nghynllun Adolygu Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 2020-21 yn cael ei nodi ac y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhoi gwybod i’r awdurdod pan fydd y rhaglen o archwilio yn ail-ddechrau; a

 

 (c)      Bod llythyr diolch yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor at Brif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’i dîm o swyddogion am ganlyniadau cadarnhaol yr adroddiad.