Mater - cyfarfodydd
Test, Trace and Protect (TTP)
Cyfarfod: 14/07/2020 - Cabinet (eitem 190)
Profi, Olrhain a Diogelu
Pwpras: Cyflwyno’r model cyflogaeth rhanbarthol arfaethedig ar gyfer y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn argymell fod y rhanbarth yn symud i fodel cyflogaeth, i’w ariannu’n llawn gan LlC, gyda Sir y Fflint yn gweithredu fel yr un cyflogwr i’r chwe awdurdod lleol. Byddai’r Bwrdd Iechyd yn gweithredu fel y cyflogwr i’r tîm arbenigol rhanbarthol.
Diolchodd i’r Prif Weithredwr am yr holl waith yr oedd ef a’i dîm wedi gwneud i roi’r Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ar waith. Roedd yr Aelodau Cabinet i gyd yn cytuno â hyn, yn enwedig am lwyddo i gael y cyllid ar gyfer y Rhaglen.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol :
“Rwyf yn fodlon â’r adroddiad ac yn cytuno â’r Argymhellion”.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi cymryd rhan lawn mewn Rhaglen ranbarthol Profi, Olrhain a Diogelu, a mabwysiadu’r model gweithredu hybrid o gyflogaeth i gapasiti graddfa ganolig, wedi’i ategu gan gronfa wrth gefn neu ‘fanc’ o weithwyr awdurdod lleol;
(b) Cymeradwyo’r cynnig fod Sir y Fflint yn gweithredu fel y cyflogwr i’r rhaglen ranbarthol ar ran y chwe awdurdod lleol;
(c) Nodi fod y pum awdurdod lleol partner wedi rhoi llythyr ymrwymo i Sir y Fflint fel y cyflogwr cyn cael Cytundeb Rhyng Awdurdod llawn a chyn ymrwymo adnoddau;
(d) Awdurdodi’r Prif Weithredwr i roi’r Cyngor mewn Cytundeb Rhyng Awdurdod ffurfiol a rhwymol gyda chynghorau Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam;
(e) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr i lunio ymrwymiadau cytundebol i gyflogi gweithwyr rhaglen, ac ymrwymo gwasanaethau cymorth, yn dilyn y ffaith y cafwyd cadarnhad o ddyraniad cyllideb ddigonol gan Lywodraeth Cymru; a
(f) Bod adroddiadau chwarterol yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet ar gynnydd a pherfformiad y rhaglen.