Mater - cyfarfodydd

Draft Statement of Accounts 2019/20

Cyfarfod: 23/07/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 62)

62 Datganiad Cyfrifon Drafft 2019/20 pdf icon PDF 90 KB

Cyflwyno Datganiad Cyfrifon drafft 2019/20 er gwybodaeth yr Aelodau yn unig ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaeth Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2019/20 (yn amodol ar archwiliad) er gwybodaeth.Roedd y datganiad yn cynnwys y Cyfrifon Gr?p, gan gynnwys is-gwmnïau ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor, a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a fydd yn cael ei drafod nes ymlaen. Bydd y Pwyllgor yn derbyn y cyfrifon archwiliedig terfynol ar 9 Medi i’w cymeradwyo, yn barod i’w cyhoeddi erbyn y dyddiad cau statudol (sef 15 Medi).

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid Dros Dro (Cyfrifyddiaeth Dechnegol) gyflwyniad ar y cyd gan gyfeirio at y materion canlynol:

 

·         Pwrpas a Chefndir y Cyfrifon

·         Cynnwys a Throsolwg

·         Cyfrifoldeb am y Cyfrifon

·         Gr?p Llywodraethu Cyfrifon

·         Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb

·         Penawdau – Cronfa'r Cyngor, Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai

·         Newidiadau i Gyfrifon 2019/20

·         Cyfrifon Gr?p

·         Effaith Covid-19

·         Amserlen a Chamau Nesaf

·         Effaith y Terfynau Amser Cynharach

·         Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd

 

Holodd Allan Rainford am archwiliad cyhoeddus y cyfrifon a dywedwyd wrtho y byddai apwyntiad yn cael ei wneud yn un o adeiladau’r Cyngor, gan gadw at y mesurau cadw pellter corfforol, os nad oedd modd delio â cheisiadau o'r fath yn electronig. Pan ofynnwyd am yr heriau wrth gynhyrchu’r cyfrifon yn ystod argyfwng y pandemig dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod trefniadau gweithio hyblyg eisoes yn rhan o'r arferion busnes arferol a bod timau wedi estyn y trefniadau yma.O ran cywirdeb ffigyrau, rhoddodd sicrwydd na fu newid i’r technegau amcangyfrif a bod y broses sicrhau ansawdd gadarn wedi’i chryfhau ymhellach wrth i dimau eraill wirio’r ffigyrau hefyd.

 

Rhoddodd Matt Edwards, Archwilio Cymru, sicrwydd bod cysylltiad rheolaidd wedi ei wneud â’r tîm cyllid drwy gydol y broses i ddelio â materion a oedd yn dod i'r amlwg er mwyn lleihau risgiau a heriau yn sgil yr argyfwng.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Sally Ellis yn ymwneud â dyledwyr tymor byr, eglurodd y swyddogion bod y ffigyrau yn adlewyrchu’r sefyllfa ar y cam hwnnw o’r broses.Mae’r cynnydd yn y categori ‘Arall’ yn cynnwys swm ychwanegol ar gyfer Parc Adfer, ynghyd â nifer o ddyledwyr unigol gyda balansau isel yn weddill ar yr adeg honno.O ran dyled y GIG, dywedodd y Prif Weithredwr fod cynnydd cadarnhaol wedi’i wneud a bod y mater yn cael ei adolygu eto yn yr hydref er mwyn rhoi’r flaenoriaeth i'r pandemig cenedlaethol. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, er bod y ffigwr yn y cyfrifon yn adlewyrchu’r sefyllfa ar y pryd, y bydd y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ysgrifenedig.

 

I baratoi ar gyfer heriau cyfrifon 2020/21, gofynnodd Sally Ellis bod y Pwyllgor yn derbyn gwybodaeth am unrhyw fater sy'n codi er mwyn gallu cyflawni ei rôl.Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod paratoadau ar y gweill a bod gwneud popeth o fewn y terfyn amser cynnar eleni, a hynny yn wyneb amgylchiadau heriol dros ben, yn edrych yn addawol ar gyfer proses y flwyddyn nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at brotocol cadarn a thryloyw’r Cyngor ar gyfer pennu lefel y gronfa  ...  view the full Cofnodion text for item 62