Mater - cyfarfodydd

Communal Heating Charges 2020/21

Cyfarfod: 07/07/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 54)

54 Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2020/21 pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Ystyried y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2020/21 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y ffioedd gwresogi arfaethedig i eiddo’r Cyngor sydd â chynlluniau gwresogi cymunedol a fydd yn dod i rym o 31 Awst 2020. 

 

            Mae’r ffioedd arfaethedig ar gyfer 2020/21, wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn aros am gymeradwyaeth gan y Cabinet. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2020/21 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill y costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan drosglwyddo’r manteision o gostau ynni is i denantiaid.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch pympiau gwres yr awyr a boeleri tân nwy, amlinellodd y Prif Swyddog y manteision o bympiau gwres yr awyr sydd yn tynnu aer i greu ffynhonnell o wres a ellir ei reoli’n annibynnol gan breswylwyr.  Bydd boeleri nwy newydd yn cael eu gosod, mewn rhyw 15 – 20 mlynedd.  

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Shotton bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion fel a amlinellwyd yn yr adroddiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn Nhabl 1, paragraff 1.07 yr adroddiad yn cael eu nodi.