Mater - cyfarfodydd

Housing Rent Income

Cyfarfod: 07/07/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 55)

55 Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 155 KB

Pwrpas:        Rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau am ddadansoddiad ôl-ddyledion rhent.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw y diweddariad gweithredol ar alldro diwedd blwyddyn 2019/20 ar gyfer casgliad rhent tai. Rhoddodd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Casglu Rhent:Alldro 2019/20;
  • 19/20 – Achosion sy’n arwain at droi allan am beidio â  thalu;
  • Dadansoddiad o Ôl-Ddyledion Rhent drwy’r math o hawliad;
  • Tenantiaid mewn Ôl-Ddyledion Rhent – Mawrth 2020; a
  • Casglu Rhent:20/21 Sefyllfa Ddiweddaraf (at wythnos 13)

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd tenantiaid ynghylch tenantiaid yn dod i ôl-daliad o ganlyniad i pandemig COVID-19, amlinellodd y Rheolwr Refeniw yr ymgysylltiad cynnar gyda thenantiaid i alluogi’r Cyngor gynorthwyo a chefnogi yn fuan iawn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin faint o denantiaid oedd wedi dod i ddyled oherwydd bod y Swyddfa yn Cysylltu wedi cau o ganlyniad i bandemig COVID-19, a pham nad oedd Swyddfa Treffynnon yn Cysylltu yn agor ar un pryd â rhai eraill yn Sir y Fflint.  Roedd yn bryderus ynghylch hyn gan fod y swyddfa hon yn cyflenwi ardal ddaearyddol eang yn Sir y Fflint. Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod heriau gyda thenantiaid a oedd yn dibynnu’n fawr ar daliadau arian parod, a nad oedd wedi gallu gwneud taliadau yn yr un modd. Roedd y Cyngor wedi bod yn ymgysylltu â’r tenantiaid hynny, a lle bo’n bosibl, yn eu hannog i wneud trefniadau amgen, gyda thua 100 o denantiaid ychwanegol yn talu drwy ddebyd uniongyrchol bellach. Y cyngor a roddwyd i denantiaid pan roeddynt eisiau parhau i wneud taliadau arian parod, oedd i sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud, pan roedd yn ymarferol i wneud. Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) cyn ail-agor y Swyddfeydd yn Cysylltu, roedd rhaid cynnal asesiad risg ac roedd yn amau mai'r rheswm bod swyddfa Treffynnon yn agor yn hwyrach oedd oherwydd lefel y risg.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Shotton ar effaith gadarnhaol y fenter ‘Gwario i Arbed’ ond cododd bryderon ynghylch y cynllun Credyd Cynhwysol a’r arhosiad am bum wythnos ar gyfer talu derbynwyr. Hefyd soniodd am y taliad Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) o £300k a oedd wedi’i dderbyn ar ôl y flwyddyn gyfrifyddu rhent wedi dod i ben, a gofynnodd os oedd hyn yn ddigwyddiad un-tro neu a oedd y taliad blynyddol gan DWP bob amser yn cyrraedd ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu. Eglurodd y Rheolwr Refeniw bod mwy o denantiaid wedi mudo i Gredyd Cynhwysol oherwydd pandemig COVID-19. Cafodd y tenantiaid hynny eu symud i daliadau a reolir, ond roedd yr amser am daliadau gan DWP yn cymryd amser, a gobeithir y bydd newid yn fuan yn hyd amser yr oedd DWP yn anfon y taliadau i'r Cyngor, gan fod hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Lloyd ynghylch prif fannau lle mae ôl-ddyledion, eglurodd y Prif Swyddog na fyddai adnabod y prif fannau yn ddefnyddiol a bod ychydig o denantiaid ym mhob Cymuned sy’n gwrthod talu ac ymgysylltu â’r Cyngor.

 

Cododd y Cynghorydd Ron Davies bryderon ynghylch Credyd Cynhwysol a’r effaith negyddol mae hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 55