Mater - cyfarfodydd
Prudential Indicators - Actuals 2019/20
Cyfarfod: 16/06/2020 - Cabinet (eitem 175)
175 Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2019/20 PDF 105 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2019/20 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2019/20 ac eglurodd o dan y Cod Materion Ariannol ar gyfer Arian Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, roedd Cynghorau angen gosod ystod o Ddangosyddion Darbodus.
Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2019/20 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran:
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Pwyll; a
· Dangosyddion Darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd.
Roedd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn gwneud y sylwadau canlynol:
“Rwy’n fodlon gyda’r adroddiad ac rwy’n llongyfarch staff y Cyngor am eu cyflawniadau ariannol wrth gadw uwchben heriau COVID-19 na ddisgwyliwyd chwe mis yn ôl.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r adroddiad.