Mater - cyfarfodydd

Appointment of Directors to North East Wales (NEW) Homes Board

Cyfarfod: 12/05/2020 - Penderfyniadau Aelodau Cabinet Unigol (eitem 8)

8 Penodi Cyfarwyddwyr ar y Bwrdd NEW Homes pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo penodi tri Chyfarwyddwr newydd i’r Bwrdd NEW Homes.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ac eglurodd fod angen cymeradwyo penodi tri chyfarwyddwr annibynnol i Fwrdd North East Wales (NEW) Homes.

 

Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2020 cynhaliodd NEW Homes ymarfer recriwtio. Cafwyd wyth ymgeisydd a chrëwyd rhestr fer o bedwar, gyda thri yn derbyn y gwahoddiad i ddod i gyfweliad. 

 

            Yn dilyn y cyfweliadau, mae’r ymgeiswyr canlynol wedi cael cynnig lle ar y Bwrdd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet:

 

·         Geoff Davies - Swyddog Arweiniol, Tai Cymunedol, Cyngor Sir Ddinbych

·         Richard Weigh - Prif Swyddog Cyllid / Swyddog Adran 151, Cyngor Dosbarth Craven

·         Simon Finlay - Cyfarwyddwr Datblygu, Macbryde Homes

 

Gyda’i gilydd bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus, sydd oll yn lleol, yn dod ag arbenigedd strategol a gweithredol sylweddol i’r Bwrdd yn ogystal â phrofiad mewn meysydd allweddol fel y nodwyd yn y Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd, gan gynnwys:

 

·         Rheoli tai

·         Rheoli asedau

·         Ymgysylltu â phreswylwyr

·         Rheoli prosiect

·         Datblygu a chaffael cyn adeiladu (preswyl)

·         Darparu rhaglenni tai

·         Arweinyddiaeth llywodraeth Leol strategol

·         Darparu strategaeth ariannol tymor canolig a hirdymor y Cyngor; datblygu mentrau masnachol o fewn amgylchedd llywodraeth leol, gan gynnwys datblygu cynlluniau tai cyd-berchnogaeth

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Simon Finlay wedi’i gyflogi fel datblygwr tai i Macbryde Homes sy’n gweithio gyda NEW Homes.Yn ystod y broses recriwtio cadarnhawyd nad oedd gwrthdaro buddiannau rhwng y ddwy rôl.Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y byddai adran wahanol yn delio â'r gwaith petai NEW Homes yn delio gyda Macbryde Homes yn y dyfodol.Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglenni Tai gyda phwy yn Macbryde Homes y byddai’n delio ag o yn dilyn penodi Simon Finlay.Eglurodd hefyd y byddai’r trefniant yn cael ei fonitro a bod Mr Finlay yn ymwybodol o hyn.

 

Roedd y Cynghorydd Ian Dunbar, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, wedi cyflwyno’r sylwadau canlynol:

 

‘Hoffaf ofyn, os gwelwch yn dda:-

 

  1. Gan fod yr aelodau arfaethedig yn swyddogion cynghorau sir ac yn gyfarwyddwr datblygu, ydyn nhw mewn sefyllfa lle mae’r swyddogaeth adeiladu tai yn eu siroedd yn gweithio yn yr un capasiti ag, adeiladu tai Cyngor Sir y Fflint, gan fod adran 8.00 o’r adroddiad i’w weld yn gwrth-ddweud hyn yn nhermau penodi cyfarwyddwyr annibynnol; ac

 

  1. A ydym ni’n colli rhywbeth yng ngwneuthuriad y bwrdd gan ei fod yn ymddangos ein bod ni’n geffyl blaen pan ddaw hi i adeiladu cartrefi newydd?

 

Rwyf yn llwyr gefnogi penodi’r tri unigolyn uchod, fel y nodir yn adran 1.04 yr adroddiad a theimlaf y bydd eu harbenigedd yn help. Rwyf hefyd yn llwyr gefnogi’r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Dave Hughes yn ei benderfyniad unigol’.

 

            Cydnabuwyd fod y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Dunbar wedi derbyn sylw yn ystod cyflwyniad yr adroddiad.

 

Roedd y Cynghorydd Hughes, fel Aelod Cabinet Tai, yn cefnogi’r argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo penodi’r tri chyfarwyddwr annibynnol newydd yn Aelodau Bwrdd North East Wales Homes.