Mater - cyfarfodydd
Financial Procedure Rules
Cyfarfod: 20/10/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 20)
20 Rheolau Gweithdrefn Ariannol PDF 86 KB
Pwrpas: Cymeradwyo'r Rheolau Gweithdrefn Ariannol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - FPRs with tracked changes, eitem 20 PDF 333 KB
- Enc. 2 - Glossary of terms, eitem 20 PDF 102 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rheolau Gweithdrefn Ariannol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Rheolau Gweithdrefn Ariannol arfaethedig oedd wedi cael ei ddiweddaru yn dilyn mân ddiwygiad gan y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.
Wrth gynnig yr argymhelliad, diolchodd y Cynghorydd Chris Dolphin i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Banks.
Fe soniodd y Cynghorydd Richard Jones am gyfeiriadau at werth am arian a gofynnodd sut y gallai hyn gael ei fesur yn effeithiol, ac fe awgrymodd y gallai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol drafod hyn ymhellach. Rhoddodd y Prif Weithredwr enghraifft pan gafodd y rheolau eu gweithredu gan werthuso ansawdd a gwerth am arian tra’n dyfarnu contractau.Dywedodd y gellir edrych ar waith ar fuddsoddiadau cyfalaf mewn rhagor o fanylder yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol wedi’u diweddaru.