Mater - cyfarfodydd

Social Services Annual Report

Cyfarfod: 16/06/2020 - Cabinet (eitem 177)

177 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones yr Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol ac eglurodd ei bod yn ofynnol i’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol lunio’r adroddiad, crynhoi eu barn ar swyddogaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol a blaenoriaethau ar gyfer gwella, fel sy’n ofynnol yn gyfreithiol yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a’r Ddeddf Rheoliadau ac Arolygiadau (Cymru) 2015. 

 

            Diben yr Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol oedd gosod hunanwerthusiad gyda blaenoriaethau ar gyfer gwella.    Bydd yr adroddiad yn ffurfio rhan annatod o werthusiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd y gwerthusiad hefyd yn hysbysu asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o’r Cyngor fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod arddull yr adroddiad yr un fath ag adroddiadau blaenorol a byddai’n cael ei gynhyrchu mewn arddull electronig gan Double Click. Byddai’r adroddiad hefyd yn cael ei gyfieithu ac ar gael mewn fformat dwyieithog ar wefan y Cyngor ar ôl ei gymeradwyo. 

 

            Roedd yr adroddiad blynyddol yn amlinellu’r blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2020/22 ac roeddent wedi eu manylu yn yr adroddiad, gan gynnwys ymestyn Marleyfield a gweithredu ‘Model Mockingbird’ o Faethu.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gofynnodd y Cynghorydd McGuill nifer o gwestiynau a ymatebwyd yn uniongyrchol iddynt drwy e-bost, fel y manylwyd isod:

 

C – Sawl uned gofal micro sy’n weithredol a faint o gleientiaid sydd yna (llawer o arian yn mynd i mewn i hyn ac amseriad perffaith gyda’r cyfnod clo i ddatblygu’r busnesau hyn)

A – fel y disgrifir o fewn yr adroddiad roedd hwn yn beilot gyda chyllid drwy grantiau Her Economaidd a Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, roedd llawer o waith wedi’i wneud cyn y Coronafeirws, ac roeddem wedi cyrraedd pwynt o gael nifer o ofal Micro yn dangos diddordeb ac yn barod i ddechrau. Fodd bynnag, roedd hyn wedi’i atal oherwydd canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru rheoliadau C19. Rydym yn parhau i ddatblygu a hysbysebu’r gwaith rydym yn ei wneud a byddwn yn barod i symud ymlaen gydag o leiaf dau ofal micro unwaith y bydd cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi eu llacio.

 

C – Mae’r defnydd o dechnoleg wedi ymestyn yn sylweddol ar draws pob oed a gallu, beth ydym yn ei wneud i gasglu hyn ac eto datblygu’r math hwn o gyswllt gyda phobl? Mae hyfforddiant yn un maes ond mae yna lawer o feysydd ac nawr yw’r amser i “fynd amdani.”

A – fel rhan o’r prosiectau trawsnewid rhanbarthol, a arweinir gan Sir y Fflint, rydym wedi lansio’r wefan ‘cael eich gwirio’ i bobl ag anabledd dysgu, mae’r wefan yn fyw a bydd yn datblygu wrth i bobl ei defnyddio, byddwn yn gwybod faint o drawiadau a gafwyd ar y wefan.  Mae yna ddefnydd gwych o dechnoleg o fewn gwasanaethau plant ac mae hwn wedi profi’n gyfrwng poblogaidd iawn yn ystod y cyfnod clo, mae staff yn dweud fod pobl ifanc yn cyfrannu felly’n dda i ddysgu ar gyfer y defnydd o dechnoleg yn y maes hwn yn y dyfodol.  Ynghyd â  ...  view the full Cofnodion text for item 177