Mater - cyfarfodydd
Joint Procurement Service Annual Report 2019/20
Cyfarfod: 15/12/2020 - Cabinet (eitem 63)
63 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd 2019/20 PDF 112 KB
Pwrpas: Adroddiad ar gynnydd perfformiad y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Joint Procurement Service Annual Report 2019/20, eitem 63 PDF 263 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Caffael ar y Cyd 2019/20
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad gan egluro bod gan y Cyngor gyd-wasanaeth caffael gyda Chyngor Sir Ddinbych, sef yr awdurdod cynnal. Roedd y cyd-wasanaeth wedi bod ar waith ers 2014 ac fe gytunodd y Cabinet i adnewyddu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer y gwasanaeth hwnnw gyda Sir Ddinbych yn 2018.
Roedd y gwasanaeth yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar weithgarwch a pherfformiad ynghlwm â thargedau o’r Strategaeth Gaffael. Roedd yr ail adroddiad blynyddol wedi’i atodi i’r adroddiad. Roedd yn dangos gwelliant bach ynghlwm â’r rhan fwyaf o ddangosyddion perfformiad allweddol – tuedd gadarnhaol a allai gael ei chyflymu a’i hehangu.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad perfformiad blynyddol, a chefnogi’r camau oedd yn cael eu cynnig i wella perfformiad, lle’r oedd angen.