Mater - cyfarfodydd
School Modernisation – 21st Century Schools Capital Programme
Cyfarfod: 17/03/2020 - Cabinet (eitem 159)
159 Moderneiddio Ysgolion - Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif PDF 135 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Statutory Consultation Timeline, eitem 159 PDF 15 KB
- Appendix 2 - MIM information paper, eitem 159 PDF 86 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad diweddaru ar brosiectau o fewn Band B Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn ysgolion i wella'r amgylchedd dysgu i ddisgyblion yn Sir y Fflint.
Wrth symud yr argymhellion, esboniodd y Cynghorydd Roberts fod y prosiectau ar gyfer datblygu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Croes Atti yn y Fflint a strategaeth ymgynghori ar gyfer model diwygiedig o addysg gynradd ac uwchradd yn ardal Saltney/Brychdyn. Ceisiwyd cymeradwyaeth hefyd i ymgysylltu â phartner strategol Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer prosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol a enwebwyd gan y Cyngor i gydleoli darpariaeth gynradd ac uwchradd yn Mynydd Isa. Nodwyd y prosiect hwn fel yr un mwyaf addas ar gyfer prosiect braenaru LlC a fyddai'n elwa o well cyfraddau ymyrraeth Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts na fyddai unrhyw ymgynghoriad yn digwydd yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith.
Eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Thomas a chroesawodd y camau a gymerwyd gan y Cyngor i wella adeiladau ysgolion, a fyddai hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar allyriadau carbon.
Croesawodd y Cynghorydd Banks y cynnig ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg gyntaf mewn adeilad newydd yn Sir y Fflint, a manteisiodd ar y cyfle i dalu teyrnged i LlC am weithio gyda'r Cyngor ar foderneiddio ysgolion.
PENDERFYNWYD:
(a) Mynd ymlaen ag ymgynghoriad statudol trwy'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, ar gyfer adleoli Ysgol Croes Atti, y Fflint i safle newydd ar ddatblygiad tai Croes Atti;
(b) Bod prosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol a enwebwyd gan y Cyngor fel y prosiect arfaethedig ar gyfer ardal Mynydd Isa yn cael ei ddiwygio a thrwy wneud hynny caniatáu i swyddogion ymgysylltu â Phartner Strategol LlC ar gyfer Model Buddsoddi Cydfuddiannol, pan fyddant ar gael yn nhymor yr Hydref 2020;
(c) Ymgynghori trwy'r cod Trefniadaeth Ysgolion ar y cynnig i gyfuno darpariaeth ysgolion cynradd a gynhelir gan awdurdodau lleol yn ardal Saltney - Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood; ac
(d) Ymgynghori'n anffurfiol â budd-ddeiliaid allweddol yn Saltney a Brychdyn mewn perthynas â datblygu cynnig newydd o addysg uwchradd sy'n fodern, o ansawdd uchel ac sy'n denu disgyblion lleol o bob rhan o'r ardal leol, ac sy'n gynaliadwy.