Mater - cyfarfodydd

NEWydd Business Plan

Cyfarfod: 16/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 49)

Cynllun Busnes NEWydd

Pwrpas:        Cyflwyno cynllun busnes tair blynedd NEWydd (2020/21 I 2022/23) ar gyfer ei ystyried, adolygu a’i gefnogi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i gyflwyno cynllun busnes tair blynedd NEWydd (2020/21 i 2022/23) i’w gymeradwyo. Darparodd wybodaeth gefndir a rhoddodd wybod fod blaenoriaethau cynllun busnes ehangach yn 2019/20 yn seiliedig ar wella busnes craidd, gan sicrhau dull gweithredu hyfyw i’r dyfodol. Roedd y cynnydd mewn perthynas â chyflawni blaenoriaethau cynllun busnes 2019/20, ynghyd â’r blaenoriaethau busnes a nodwyd ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf, wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad ac roedd y manylion ynghlwm â’r adroddiad. 

 

                        Cyflwynodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig, yr ystyriaethau allweddol. Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr i’r cwestiynau a godwyd ynghylch sicrhau contractau arlwyo a glanhau i gynnal gwasanaeth i ysgolion a allai ddewis arfer ‘dewis lleol’, darpariaeth prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, a threfniadau ar gyfer cefnogaeth ‘swyddfa gefn’.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD: 

 

 (a)     Nodi’r llwyddiannau hyd yma yn erbyn blaenoriaethau Cynllun Busnes Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig 2019/20; a 

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn argymell Cynllun Busnes NEWydd 2020/21 i 2022/23 i’r Cabinet i’w ystyried.