Mater - cyfarfodydd
Internal Audit Progress Report
Cyfarfod: 18/11/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 12)
12 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 89 KB
Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Internal Audit Progress Report 2020/21, eitem 12 PDF 976 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.
Nid oedd unrhyw adroddiad coch (sicrwydd cyfyngedig) wedi’i gyflwyno ers yr adroddiad diwethaf ym mis Ionawr. Roedd cynnydd ar adroddiadau â statws Ambr Goch (rhywfaint o sicrwydd) yn dangos bod y rhan fwyaf o gamau wedi’u gweithredu. O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd cynnydd o ran cwblhau camau gweithredu hwyr yn cael ei fonitro, gan gydnabod yr effaith o’r sefyllfa argyfwng. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar yr adnoddau yn y tîm Archwilio Mewnol fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Dunbobbin a’r Cynghorydd Axworthy.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.