Mater - cyfarfodydd
Strategic Equality plan 2020/24
Cyfarfod: 17/03/2020 - Cabinet (eitem 157)
157 Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/24 PDF 122 KB
Pwrpas: Cytuno ar amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2020/2024 y Cyngor cyn eu cyhoeddi.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Strategic Equality plan 2020/24, eitem 157 PDF 322 KB
- Enc. 2 - Background data and evidence, eitem 157 PDF 3 MB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gytuno ar amcanion cydraddoldeb diwygiedig y Cyngor a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020/2024 cyn ei gyhoeddi'n statudol.
Rhoddodd y Cynghorydd Polisi Strategol drosolwg o'r ystyriaethau allweddol a'r ymchwil a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Roedd chwech o'r saith amcan cydraddoldeb yn gyson â'r rhai a osodwyd yn 2016, gan ychwanegu amcan newydd ar dlodi a oedd yn adlewyrchu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd a roddwyd ar gyrff cyhoeddus. Byddai gweithredoedd yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael eu hadolygu'n flynyddol a'u hymgorffori yn system CAMMS i ddarparu adroddiadau mwy cadarn.
Croesawodd y Cynghorydd Banks y cam i adolygu'r Cynllun yn flynyddol a oedd yn darparu mwy o hyblygrwydd.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Roberts a Thomas.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/2024 y Cyngor.