Mater - cyfarfodydd

Notice of Motion

Cyfarfod: 27/02/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 123)

123 Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 40 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: Mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi.  Bydd Swyddogion yn cyflwyno trefniadau ar gyfer darpariaeth digartrefedd ar y stryd fel rhan o’r ymateb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau Rhybudd o Gynnig dan y telerau canlynol, wedi’u cynnig a’u heilio gan y Cynghr. Attridge a Brown.

 

Protocol Argyfwng Tywydd Garw - y Cynghr. Bernie Attridge, Helen Brown, Carol Ellis a George Hardcastle

 

“Rydym ni’n galw ar Sir y Fflint i adolygu'r Protocol Argyfwng Tywydd Garw ar unwaith.

 

Yn dilyn tywydd garw, gan gynnwys storm rybudd uwch, ni lwyddodd Sir y Fflint i ysgogi’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw fel awdurdodau cyfagos oherwydd nad oedd hi’n ddigon oer yn ôl y protocol.

 

Gofynnwn fod swyddogion Sir y Fflint yn defnyddio’u disgresiwn pan fo tywydd garw, a pheidio ag aros i’r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr holl linellau cyfathrebu ar agor a sicrhau ein bod ni’n estyn allan cymaint â phosibl.

 

Mae’n rhaid i ni fod yn ofalgar a thosturiol tuag at y rheiny yn ein sir sy’n llai ffodus na ni.”

 

Gan siarad o blaid y cynnig, amlygodd y Cyng. Attridge bwysigrwydd mynd i'r afael â digartrefedd drwy ddull amlasiantaeth.Er ei fod yn cydnabod bod y protocol wedi’i ysgogi ar sawl achlysur, roedd yn pryderu nad oedd y meini prawf yn ystyried oerfel gwynt yn ystod y tywydd garw diweddar.Roedd yn cydnabod yr heriau ar ôl i’r darparwr gwasanaeth roi’r gorau i gynnig y lloches nos yn Nhreffynnon ac yn croesawu ymateb y Cyngor i ddiogelu'r cyfleuster newydd yng Nglannau Dyfrdwy.Galwodd am adolygiad brys o’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw i sicrhau na fydd y sefyllfa yma’n digwydd eto, ac am ddisgresiwn i ysgogi’r protocol pan nad yw'r tymheredd yn gostwng o dan y lefel a nodwyd.Aeth yn ei flaen i ddiolch i’r Aelod Cabinet Tai, Prif Swyddog (Tai), Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Rheolwr Tîm Digartrefedd a Chyngor a’i thîm.

 

Fel Aelod Cabinet Tai, amlygodd y Cyng. Dave Hughes flaenoriaeth y Cyngor i fynd i’r afael â digartrefedd a gwahodd y swyddogion i rannu trosolwg o’u gwaith yn cefnogi pobl ddigartref ac yn sefydlu’r lloches nos newydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Rhybudd o Gynnig yn gyfle i rannau’r camau gweithredu ar gyfer sefydlu’r gwasanaeth newydd yng Nglannau Dyfrdwy, fel y nodir yn y nodyn briffio a gylchredwyd. Er bod risg ynghlwm wrth sefydliad partner yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth, mae’r gwasanaeth newydd mewn adeilad Cyngor yn rhoi mwy o gadernid i ni.Mewn ymateb i bryderon, siaradodd y Prif Weithredwr am geisio paratoi’r lleoliad newydd dan amgylchiadau anodd a rhoi’r trefniadau diogelwch angenrheidiol ar waith er mwyn defnyddio’r cyfleuster fel canolfan argyfwng petai’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw yn cael ei ysgogi.

 

Cyflwynwyd y Rheolwr Tîm Digartrefedd a Chyngor (Jenni Griffiths), Arweinydd Tîm Datrysiadau Tai (Deborah Kenyon) a’r Swyddog Contractau ac Adolygu Cefnogi Pobl (Lisa Pearson) a roddodd gyflwyniad manwl ar eu gwaith ac effaith colli’r lloches nos. Oherwydd y gwaith i baratoi’r cyfleuster newydd a chaffael darparwr gwasanaeth newydd - a’r tywydd yn gwaethygu - roedd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r tîm wedi rhannu ymrwymiad i agor y  ...  view the full Cofnodion text for item 123