Mater - cyfarfodydd

Domestic Energy Programmes

Cyfarfod: 17/03/2020 - Cabinet (eitem 166)

166 Rhaglenni Ynni Domestig pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am y dulliau a gymerwyd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dulliau a ddefnyddir gan dîm Rhaglen Arbed Ynni Domestig y Cyngor i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Sir y Fflint.

 

Cafodd yr adroddiad, a oedd yn cynnwys enghreifftiau dienw o gymorth a roddwyd i drigolion i wella ansawdd eu bywyd, glod gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd.

 

Yn ystod y drafodaeth, talodd yr Aelodau deyrnged i'r gwaith pwysig a wnaed gan y tîm a'u hymgysylltiad cadarnhaol â thrigolion i roi sicrwydd a chynorthwyo gyda materion eraill.  Cytunodd y Prif Swyddog adrodd yr adborth cadarnhaol yn ôl i’r tîm.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd rhagorol a wnaed wrth ddarparu rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig i gefnogi cartrefi sy'n brin o danwydd yn Sir y Fflint a bod y maes gwaith hwn yn parhau i gael ei gefnogi fel blaenoriaeth i’r Cyngor yn y dyfodol.