Mater - cyfarfodydd

Town Centre Regeneration Update

Cyfarfod: 17/03/2020 - Cabinet (eitem 158)

158 Diweddariad Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 191 KB

Pwrpas:        I ddarparu a diweddaru ar y dulliau a ddefnyddir i adfywio canol trefi.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad diweddaru ar y dull strategol o adfywio canol trefi fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor sydd wedi ei adnewyddu ar gyfer 2020 ymlaen.

 

Yn ogystal â diweddaru camau a gymerwyd gan y Cyngor ers mis Chwefror 2019, manylodd yr adroddiad ar ddisgwyliad Llywodraeth Cymru (LlC) i gynghorau fabwysiadu dull mwy uchelgeisiol o adfywio canol trefi.  Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r angen am adnoddau ychwanegol er mwyn i’r tîm gyflawni'r gwaith ychwanegol. Croesawyd yr adroddiad a'r argymhellion gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y drafodaeth yn y cyfarfod hwnnw wedi bod yn gadarnhaol. Siaradodd am gyd-destun newidiol canol trefi wrth archwilio opsiynau fel hybiau trafnidiaeth, llety o ansawdd a phrosiectau o dan raglen fuddsoddi'r Fenter Treftadaeth Treflun.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Banks y tîm ar gynigion llwyddiannus am gyllid LlC.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y dylid nodi’r cynnydd o ran cyflawni’r blaenoriaethau ar gyfer adfywio canol tref a gytunwyd yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Mai 2019;

 

 (b)      Cefnogi'r cyfeiriad strategol yn y dyfodol a nodir yn yr adroddiad i gyflawni'r blaenoriaethau hynny yn y dyfodol;

 

 (c)      Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd i wneud cynnig am arian allanol wrth iddo ddod ar gael i gefnogi'r dulliau o adfywio canol trefi a nodir yn yr adroddiad; a

 

 (d)      Cefnogi'r dyraniad adnoddau fel y nodwyd yn yr adroddiad i gynyddu effaith dull y Cyngor o adfywio canol trefi.