Mater - cyfarfodydd

Wales Audit Office (WAO) Audit Plan 2020

Cyfarfod: 09/09/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 73)

73 Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2020 pdf icon PDF 85 KB

Mae Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n archwiliwr allanol y Cyngor, wedi paratoi cynnal archwiliad ar gyfer 2020 i’r Cyngor a’r Cronfa Bensiynau Clwyd, sydd yn gosod eu gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ynghyd ag amserlenni, costau a’r timau archwilio sydd yn gyfrifol am gyflawni’r gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020, oedd yn nodi’r trefniadau a chyfrifoldebau ar gyfer y gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y Cyngor yn ystod y flwyddyn. Er bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno ym mis Mawrth, nid oedd yn bosibl ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn sgil y sefyllfa argyfyngus.

 

Dywedodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru, ers cyflwyno’r adroddiad, bod nifer o risgiau wedi cael eu diweddaru a’u cyfathrebu i’r Cyngor, a bydd copi o’r rhain yn cael eu rhannu ar gais.  Roedd y rhai ar yr archwiliad ariannol yn cyfeirio at ddefnydd cynyddol o amcangyfrifon cyfrifeg a mwy o ganolbwynt ar weithdrefnau’r Cyngor ar gyfer cau’r cyfrifon, fodd bynnag ni godwyd materion o’r fath. Er gwaethaf oedi o ran y dyddiad cynlluniedig ar gyfer barn archwiliad ar y cyfrifon, cadarnhawyd y byddai’r dyddiad cau statudol yn cael ei fodloni ac nid oedd unrhyw faterion wedi codi o’r archwiliad i danseilio hynny.  Nid oedd cyflwyniad y safon newydd o Lesoedd IFRS16 bellach yn risg gan fod y gweithrediad wedi cael ei oedi. Roedd y gwaith a gyflawnwyd cyn y cam hwnnw wedi canfod bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da wrth gyflwyno ei ganfyddiadau.

 

Wrth gyflwyno’r rhaglen archwiliad o berfformiad, dywedodd Gwilym Bury bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi nodi’r dull i waith archwilio yn ystod y sefyllfa argyfwng. Disgrifiodd ymgysylltiad y Cyngor gydag Archwilio Cymru yn ystod y cyfnod hwn fel ‘rhagorol’ a chanmolodd y dull a gymerwyd i ddelio â’r pandemig. Mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi llythyr i’r Cyngor yn ddiweddar yn crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hwn a’i fwriad i symud ymlaen gyda meysydd eraill o waith archwilio yn y Cynllun wrth ailgydio yn y gweithrediadau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan, dywedodd Gwilym Bury mai’r nod oedd cwblhau holl waith archwilio yn y Cynllun erbyn Ebrill 2021 lle bynnag bosibl, heb effeithio ar ffioedd.  Canmolodd y Cyngor am ei ymgysylltiad gydag Archwiliad Cymru a’r dull rhagweithiol yn ystod y flwyddyn.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i gydweithwyr Archwilio Cymru am eu sylwadau cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.