Mater - cyfarfodydd

Public Convenience Provision in Mold

Cyfarfod: 18/02/2020 - Cabinet (eitem 148)

148 Darpariaeth Cyfleusterau Cyhoeddus yn yr Wyddgrug pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth i uwchraddio cyfleusterau cyhoeddus yng Ngorsaf Fysiau Heol y Brenin a chwblhau gwaith i wella’r orsaf fysiau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Cyfleusterau Cyhoeddus yng Nghanol Tref yr Wyddgrug a oedd yn darparu manylion y cynigion ar gyfer y cynllun yn yr Wyddgrug.

 

            Roedd yr adolygiad a gyflawnwyd wedi cadarnhau y dylid darparu un cyfleuster o safon uchel ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, yng Nghanol Tref yr Wyddgrug a dylid lleoli’r cyfleuster yng Ngorsaf Fysiau Heol y Brenin a fyddai’n cefnogi dyheadau’r Cyngor am Ganolfan Gludiant a oedd yn cael ei ddatblygu ar y safle. Roedd Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi cael y cyfle i reoli cyfleuster Stryd Newydd ac roedd hynny’n cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

            O ystyried y byddai costau sylweddol i ddod â chyfleuster Stryd Newydd i safon addas, mae’r Cyngor Tref wedi cytuno gweithio gyda’r Cyngor Sir i wella’r cyfleusterau yn Heol y Brenin a defnyddio’r tir sydd ar gyfleuster Stryd Newydd i elwa trigolion y dref drwy gynyddu argaeledd parcio ym maes parcio Stryd Newydd.

 

            Bydd y prosiect ehangach yn cynnwys y canlynol:

 

·         Uwchraddio cyfleuster toiledau presennol Heol y Brenin i ddarparu cyfleuster o safon uchel gydag arwyddion o ganol y dref, a darparu cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr bys, sy’n ymweld â’r Wyddgrug neu’n defnyddio’r Ganolfan Gludiant ar eu ffordd i leoliadau eraill;

·         Cwblhau gwaith i wella’r orsaf fysiau, gan gynnwys cyflwyno system unffordd dros yr orsaf a darparu pwynt aros ar gyfer grwpiau bys sy’n ymweld â’r dref;

·         Uwchraddio’r ciosg ger y cyfleuster cyhoeddus a cheisio marchnata’r adeilad ar gyfer caffi bychan neu fusnes coffi i fynd;

·         Dymchwel cyfleuster toiledau Stryd Newydd;

·         Ailalinio ac ail-ddylunio’r maes parcio i gynyddu capasiti o 15;

·         Darparu dau bwynt gwefru ceir trydan; ac

·         Rhoi wyneb newydd i faes parcio Stryd Newydd.

 

Bydd y cynllun yn destun ymarfer ymgynghori cyhoeddus a bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda gweithredwyr bysiau sy’n rhedeg o orsaf fysiau yr Wyddgrug. Bydd y broses ymgynghori hefyd yn cynnwys adborth ar y dewis i godi ffi ar ddefnyddwyr y cyfleuster, er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i gynnal a chadw’r cyfleuster yn y dyfodol ac i ddarparu rhwystr rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y cyfleuster.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r gwaith uwchraddio i’r cyfleuster cyhoeddus presennol yng Ngorsaf Fysiau Heol y Brenin a bod y toiledau ym Maes Parcio Stryd Newydd yn cael eu dymchwel i gynyddu llefydd parcio, yn dilyn penderfyniad y Cyngor Tref i wrthod y cynnig o gymryd cyfrifoldeb cynnal a chadw’r cyfleuster; a

 

 (b)      Cymeradwyo cwblhau gwelliannau i’r Gorsaf Fysiau.