Mater - cyfarfodydd
Care Inspectorate Wales Activity Update
Cyfarfod: 18/02/2020 - Cabinet (eitem 147)
147 Y wybodaeth ddiweddaraf am Weithgarwch Arolygiaeth Gofal Cymru PDF 107 KB
Pwrpas: Nodi’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac ymateb i unrhyw feysydd a nodwyd i’w gwella.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ar y Wybodaeth Ddiweddaraf am Weithgarwch Arolygiaeth Gofal Cymru a oedd yn crynhoi canfyddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn chwe diwrnod o weithgarwch wedi’i ffocysu / gweithgarwch ymgysylltu gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Rheoleiddiodd Arolygiaeth Gofal Cymru wasanaethau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar gan ddefnyddio’r rheoliadau a’r safonau gofynnol cenedlaethol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (LlC).
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod yr adborth ffurfiol gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar y gweithgarwch a gyflawnwyd ym mis Chwefror, Mehefin a Hydref 2019 wedi bod yn gadarnhaol ac wedi amlygu nifer o feysydd lle berfformiodd y Cyngor yn dda iawn a lle roedd tystiolaeth o ganlyniadau da wedi’u cyflawni ar gyfer pobl yn y gymuned. Amlinellwyd crynodeb o’r canfyddiadau yn yr adroddiad, gan nodi’r meysydd ar gyfer gwella.
Bydd y gweithgarwch wedi’i ffocysu nesaf mewn perthynas â chynnydd ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymweld ag unigolion a gweithwyr sy’n rhan o’r gwasanaeth cynnydd ym mis Chwefror 2020, gan edrych ar brosesau, canlyniadau a dyheadau ar gyfer y gwasanaeth.
Croesawodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd ar ymweliadau diweddar a wnaeth i’r adrannau, bod yr holl weithwyr yn angerddol am y gwasanaethau yr oeddent yn eu darparu.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn eu gweithgarwch wedi’i ffocysu / ymgysylltiad diweddar gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol;
(b) Nodi’r ymateb i unrhyw feysydd ar gyfer gwelliant a ganfuwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystod y flwydd; a
(c) Mae’r Cabinet yn cael eu hysbysu am weithgarwch wedi’i ffocysu sydd ar y gweill gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn Sir y Fflint.