Mater - cyfarfodydd

Council Fund Revenue Budget 2020/21 Stage Three Post-Settlement

Cyfarfod: 18/02/2020 - Cabinet (eitem 140)

140 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 - Cam Tri Ôl-setliad pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 ar ôl derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ym mis Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2020/21 Cam Tri Ôl-Setliad a oedd yn nodi sut allai’r Cyngor gyflawni cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21 ar gyfer cam tri y broses gosod cyllideb. Roedd y cyfrifon yn seiliedig ar uchafswm cynnydd blynyddol ar Dreth y Cyngor o 5%.

 

            Roedd y rhagolygon ar gyfer 2020/21 wedi cael eu hadolygu er mwyn ystyried y ‘risgiau agored’ lle roedd angen gwneud darpariaeth ariannol er mwyn i’r gyllideb fod yn ddarbodus. Roedd y gwaith oedd ar y gweill ar yr opsiynau ariannu corfforaethol gweddillol wedi eu cwblhau ac roedd y canlyniadau wedi’u nodi o fewn yr adroddiad. Roedd yr adroddiad hefyd yn egluro’r ‘risgiau agored’ gweddillol ar gyfer 2020/21. Darparwyd copïau o’r sleidiau i’w cyflwyno i holl aelodau mewn cyfarfod Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

            Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod dyfarniad cyflog athrawon i’w talu o’r ymgodiad cyffredinol mewn cyllid a gyhoeddwyd yn y Setliad Dros Dro. Felly roedd darpariaeth ar gyfer ymgodiad o 2% wedi ei gynnwys yn y gyllideb am gost ychwanegol o £0.726 miliwn. Roedd pwysau ychwanegol ar gyfer Lleoliadau tu hwnt i’r Sir, y Gwasanaeth Crwner ac ar gyfer lleihad yng ngrant Gwastraff Cynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi cael eu cynnwys ynghyd ag addasiadau i’r pwysau ar gyfer Ardoll Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Cafodd y pwysau o ran cost ar gyfer AAA o £0.400 miliwn ei dynnu o'r rhagolygon wrth ddisgwyl am mwy o wybodaeth ar Grant penodol Llywodraeth Cymru a byddai’n cael ei ystyried fel risg agored yn 2020/21. Roedd yr addasiadau i’r pwysau hynny wedi lleihau’r bwlch rhagolygon o £15.629 miliwn a adroddwyd i’r Cyngor ym mis Rhagfyr i £16.315 miliwn a rhoddodd fanylion am ddatrysiadau cyllideb, fel y nodwyd yn yr adroddiad, i gau’r bwlch. Roedd 'rhain yn cynnwys cyfraniadau pensiwn cyflogwr, comisiynu gofal cymdeithasol a disgownt person sengl – adolygiad o hawl. Ar ôl ystyried hyn oll, roedd bwlch o £0.246 miliwn yn parhau.

 

            Darllenodd y Cynghorydd Roberts ddatganiad ar ei ran ef, Aelod Cabinet Cyllid, y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol:

 

 “Mae’r Cabinet yn falch o allu argymell Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor cyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21 i’r Cyngor. Wrth wynebu bwlch mawr yn y gyllideb, a oedd oddeutu £16 miliwn eleni, mae’r broses i osod y gyllideb wedi bod yn dasg anferthol unwaith eto.

 

Fel y mae ein hadroddiad yn odi, mae gennym fwlch gweddillol yn y gyllideb o £0.246 miliwn i’w gau yn erbyn rhagolygon cyllideb diwygiedig o £16.315 miliwn.

 

Er mwyn cau’r bwlch gweddillol ar Gam Tri'r broses Gosod Cyllideb, ac yn seiliedig ar gyngor y swyddog (fel y nodier yn 1.42 yr adroddiad), rydym wedi paratoi ar gyfer ymgodiad yn y grant penodol gwasanaethau cymdeithasol.Amcangyfrifwn y bydd yr ymgodiad mewn grant ar gyfer Sir y Fflint yn £0.426 miliwn.Yn seiliedig ar y cyngor cenedlaethol diweddaraf, rydym yn hyderus y gallwn ddyrannu’r grant hwn yn erbyn gwariant sydd wedi’i gynllunio’n barod ar gyfer gofal cymdeithasol yn 2020/21. Byddwn yn defnyddio £0.246  ...  view the full Cofnodion text for item 140