Mater - cyfarfodydd

Recovery of Costs Following Damage to the Highway Network

Cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 64)

64 Adennill Costau yn Dilyn Difrod i’r Rhwydwaith Priffyrdd pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Hysbysu Craffu o’r broses i adennill costau yn dilyn difrod i’r rhwydwaith priffyrdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i roi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd ynghlwm â’r costau adennill gan y Cyngor ac i roi sicrwydd fod gweithdrefnau wedi cytuno arnynt yn cael eu dilyn.  Gofynnwyd yn rheolaidd i’r gwasanaeth Strydwedd a Chludiant i roi sylw i ddamweiniau traffig ac achosion eraill i glirio gweddillion neu drwsio’r cerbytffordd pan fydd damweiniau neu achosion yn digwydd ar y rhwydwaith priffyrdd.  Ar yr achosion hynny mae’r tîm rhwydwaith priffyrdd yn edrych i gofnodi costau ac i adnabod y rheiny sydd yn gyfrifol am achosion drwy weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ac Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn ceisio adennill costau gan yr unigolion neu eu hyswirwyr.

 

Mae’r maes gwasanaeth wedi gofyn am archwiliad mewnol diweddar o’r prosesau sydd yn eu lle fel rhan o’r rhaglen archwiliad mewnol rhestredig.  Cynhaliwyd yr archwiliad yn Hydref 2019 a nodwyd bod y gweithdrefnau ysgrifenedig yn eu lle yn dderbyniol ac yn ymdrin â’r prosesau ar gyfer adennill costau ar gyfer gwaith ailgodi tâl.  Fodd bynnag, dyma’r archwiliad mewnol yn nodi nad oedd y rhain yn cael eu dilyn yn gyson ac roedd anghywirdeb yn amlwg yn y wybodaeth wedi’i gofnodi yn erbyn yr hawliau a gynhelir.  Mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud gan y maes gwasanaeth ers yr adroddiad archwiliad i adfywio’r broses ac ymateb i’r meysydd wedi’u hadnabod ar gyfer gwelliant, a oedd wedi’u manylu yn yr adroddiad.

 

Cynghorodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd bod y maes gwasanaeth ar hyn o bryd ddim yn dilyn i fyny ar adennill costau ar gyfer achosion sydd yn cynnwys marwolaethau oherwydd sensitifrwydd gweithred o’r fath.  Cost yr achosion yn aml yn uchel a gallai ffyrdd aros ar gau am nifer o oriau i alluogi’r Heddlu i archwilio’r achos.  Gofynnodd i’r Pwyllgor i ystyried p’un ai y teimlwyd y dylid ystyried adennill y costau hyn yn y dyfodol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans os oedd y Cyngor yn llwyddiannus mewn adennill y costau llawn gan gwmnïau yswiriant a hefyd os oedd y cyfraddau tâl gan gwmnïau yswiriant yn cyd-fynd ag awdurdodau cyfagos.  Eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod cwmnïau yswiriant yn aml yn trafod y costau i’w dyrannu a hefyd yn herio bywyd ased oedd wedi’i ddifrodi.  Mewn rhai achosion roedd yn hanfodol i ddileu’r ddyled a byddai’r rhaid i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gytuno i wneud hynny fel y Swyddog Adran 151.  Mae’r Awdurdod Priffyrdd yn Lloegr wedi treialu cyfradd sefydlog o dâl ar draws yr awdurdodau lleol ond cefnwyd ar hynny oherwydd diffyg cytuno ar y cyfraddau sefydlog. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Owen Thomas ynghylch yr archwiliadau ar y rhwydwaith priffyrdd a’r anawsterau yn adennill costau o achosion lle mae cerbydau wedi difrodi gwrychoedd, fe eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y broses ar gyfer archwilio’r rhwydwaith priffyrdd yn dilyn y gwaith wedi’i wneud gan y cwmnïau cyfleustodau.  Fe eglurodd hefyd nad oedd yn bosib i’r Cyngor rannu gwybodaeth wedi’i dderbyn trwy’r DVLA gydag unrhyw un arall, ond fe gytunodd i siarad â’r  ...  view the full Cofnodion text for item 64