Mater - cyfarfodydd

Committee Review

Cyfarfod: 22/01/2020 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 23)

23 Adolygiad Pwyllgor pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        I roi adroddiad cynnydd a galluogi’r pwyllgor i ystyried nifer o opsiynau a gwneud argymhellion i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad am adolygiad o’r pwyllgorau a arweiniodd at yr argymhellion canlynol yn dilyn ymgynghoriad gydag Arweinwyr Gr?p:

 

·           Lleihau niferoedd Aelodau ar Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu o 15 i 12 a lleihau nifer y pwyllgorau hynny o chwech i bump drwy wahanu cylch gwaith presennol y Pwyllgor Trosolwg Chraffu Newid Sefydliadol. Roedd Arweinwyr Gr?p wedi gofyn fod pedwar opsiwn dros rannu’r llwyth gwaith ymysg y pum pwyllgor sy’n weddill yn cael eu rhoi gerbron yr Aelodau ac aelodau cyfetholedig.

 

·           Lleihau nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Cynllunio o 21 (yr uchafswm cyfreithiol) i 17.

 

·           Lleihau niferoedd ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd o 21 i 16 (nid 18 fel sydd i’w weld yn yr adroddiad).

 

Cytunodd bawb y byddai newidiadau yn cael eu hargymell i’r Chyngor ar 27 Chwefror 2020 er mwyn cael effaith ar ôl y Cyfarfod Blynyddol.

 

Yn sgil cyfradd ymateb isel a heb unrhyw ddewis amlwg yn cael ei ffafrio, gofynnwyd i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd benderfynu ar ddewis a ffafrir o’r pedwar yn yr adroddiad.

 

Fe eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Arweinwyr Gr?p wedi cydnabod yr angen i wella presenoldeb a chyfranogiad mewn cyfarfodydd, gyda chynrychiolaeth deg o bob plaid wleidyddol ar y pwyllgorau mwy.  Cafodd pwyntiau eraill a gafodd eu codi gan Arweinwyr Gr?p eu cydnabod gan yr Arweinydd a gytunodd i leihau nifer Aelodau’r Cabinet ar y Pwyllgor Cynllunio. 

 

Cafodd copïau o drefniadau cydbwysedd gwleidyddol presennol eu dosbarthu, ynghyd â diwygiad yn dangos y newidiadau arfaethedig ac eithrio’r tri phwyllgor bach o’r cyfrifiad i sicrhau nad yw’r pleidiau gwleidyddol llai dan anfantais. Yn ôl y Prif Swyddog, o dan y ddeddfwriaeth, byddai unrhyw Aelod sy’n pleidleisio yn erbyn y cynigion cydbwysedd gwleidyddol yn y Cyfarfod Blynyddol yn arwain at ail gyfrifo i gynnwys y tri phwyllgor bach roedd pob plaid wleidyddol yn eu cynrychioli ar hyn o bryd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a fyddai’n helpu rhai pleidiau gwleidyddol i lenwi eu dyraniadau ar bwyllgorau. O ran lleihau niferoedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, dywedodd ei fod yn cefnogi Dewis 4 gyda’r theatr yn symud ochr yn ochr ag Addysg a Hamdden a bod Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn symud i Cymuned a  Menter.

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn cefnogi Dewis 1 ar ôl derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau yn yr ymgynghoriad. Dywedodd y dylai’r theatr barhau gydag Adnoddau Corfforaethol ac y byddai Datblygu Economaidd yn parhau gyda Cymuned a Menter, gyda meysydd Gwarchod y Cyhoedd – yn cynnwys Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cynllunio Rhag Argyfwng ac ati - yn dod o dan yr Amgylchedd er mwyn adlewyrchu strwythur portffolio.

 

Wrth ddiolch i swyddogion am yr adroddiad, siaradodd y Cynghorydd Heesom i gefnogi Dewis 1 sef llai o aelodaeth, ond awgrymodd y dylai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Amgylchedd gadw 15 aelod yr un ar sail eu cylch gwaith estynedig.

 

Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr adolygiad a’r gostyngiad mewn aelodaeth allai help i  ...  view the full Cofnodion text for item 23