Mater - cyfarfodydd

Update report on Hwb Cyfle

Cyfarfod: 16/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 45)

45 Diweddariad ar y Model Darpariaeth Amgen (Diwrnod Anableddau Dysgu Gofal Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyfleoedd Gwaith) pdf icon PDF 146 KB

Pwrpas:        I ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganolfan ddydd Hwb Cyfle sydd newydd ei hadeiladu a’i hagor ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor mewn perthynas â threfniadau gweithio mewn partneriaeth gyda HFT.

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y ganolfan ddydd newydd, Hwb Cyfle, a’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth gyda Hft. Darparodd wybodaeth gefndir a rhoddodd wybod fod contract gwasanaeth yr Awdurdod gyda Hft yn cynnwys elfennau allweddol o gyfleoedd gwaith, cyflogaeth a gefnogir a chanolfan ddydd. Symudodd Hft o Ganolfan Ddydd Glanrafon i’r ganolfan ddydd newydd, Hwb Cyfle, ym mis Mehefin 2019 gan gefnogi 272 o unigolion.    Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y prif bwyntiau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Cyflwynodd ddefnyddiwr gwasanaeth a’i wahodd i roi cyflwyniad byr ar ei brofiad personol yn defnyddio’r gwasanaeth Cyfleoedd Dydd Anableddau Dysgu i Aelodau.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr wahoddiad i Jordan Smith, Rheolwr y Ganolfan HFT, ac Andrew Horner, Uwch Reolwr Gweithredol Hft, i roi gwybod am gynnydd y gwaith partneriaeth gyda Hft.  Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod Hft wedi parhau i ddatblygu nifer o bartneriaethau buddiol ar draws y sir i ddarparu cyfleoedd newydd a gweithgareddau amrywiol i bobl sy’n derbyn cefnogaeth.  Rhoddwyd gwybod bod Project Search yn rhaglen gyflogaeth a gefnogir ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu.  Dechreuwyd y rhaglen ym mis Medi 2019 gyda naw o hyfforddeion gan weithredu yn y Fflint mewn partneriaeth â Thai Clwyd Alun fel y prif gyflogwr ar gyfer lleoliadau gwaith. Coleg Cambria oedd yr arweinydd addysg a phartner cyflenwi gwasanaeth y Cyngor ar gyfer anableddau dysgu. Darparodd Hft gefnogaeth hyfforddwr swydd. Darparwyd lleoliadau gwaith gan Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, Mcdonalds a’r Cyngor.

 

Diolchodd Aelodau i’r defnyddiwr gwasanaeth am rannu ei brofiad gyda’r Pwyllgor a llongyfarchwyd ef am ei gyflawniadau. Rhoddodd Aelodau ganmoliaeth i swyddogion a Rheolwyr Hft ar lwyddiant y Model Darparu Amgen ar gyfer Cyfleoedd Dydd Anableddau Dysgu a’r gwasanaeth a’r cymorth rhagorol a ddarparwyd i unigolion gan Hft. 

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones sylwadau ar ddigwyddiad busnes diweddar a dywedodd fod cyflogwyr yn edmygu llwyddiannau, brwdfrydedd a moeseg gwaith cadarnhaol defnyddwyr gwasanaeth Hft. 

 

Awgrymodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig y dylid trefnu taith o amgylch Hwb Cyfle i Aelodau pan fo’n addas.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio wedi hynny gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r cynnydd a wnaed drwy’r partneriaeth gwasanaeth â Hft, a gweddnewidiad llwyddiannus y gwasanaeth canolfan ddydd o Glanrafon i Hwb Cyfle; a

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn llongyfarch Hft ar ddarpariaeth Project Search.