Mater - cyfarfodydd

School Attendance

Cyfarfod: 30/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 43)

43 Presenoldeb Ysgol pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Darparu adroddiad i’r Aelodau ar bresenoldeb ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer 2018-19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Yn gyntaf cyflwynodd yr Uwch Reolwr Mr John Grant (Uwch Ymgynghorydd Dysgu – y Gwasanaeth Ymgysylltu, Cynhwysiant a Chynnydd) a amlinellodd ei brofiad i’r pwyllgor. Cafodd ei groesawu gan y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor. 

 

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am lefelau presenoldeb ar draws ysgolion Sir y Fflint. Nodwyd bod absenoldebau oherwydd salwch yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r absenoldebau a bod lefelau absenoldeb cyson yn dal i fod yn gymharol uchel.

 

            Ychwanegodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu fod sicrhau presenoldeb mewn ysgolion yn anodd gan fod cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion a oedd yn adrodd am broblemau iechyd meddwl ac nad oeddynt yn ymgysylltu â’r ysgol ac roedd cydweithwyr CAMHS yn rhoi cymorth i’r disgyblion hyn.  Esboniodd fod y gwasanaeth yn ceisio bod yn fwy hyblyg gan ymateb i anghenion y plant ac y byddai deall yr heriau yn ei gwneud yn bosibl i fwrw ymlaen â chynllun hirdymor. Yna, cyfeiriodd at Gynhadledd Penaethiaid Ysgolion lle’r oedd cydweithwyr wedi trafod a chydnabod y pwysau a oedd yn gysylltiedig. Cyfeiriodd yr Aelodau at Atodiad 1 yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd Mr Hytch at wyliau yn ystod y tymor a gofynnodd a oedd yn gyfreithiol i’w hawdurdodi a pha mor gadarn oedd y ffigyrau, hefyd cwestiynodd  ffigyrau presenoldeb y chwartel a fyddai’n gallu symud o wyrdd i goch petai llawer o ddisgyblion yn dal y ffliw.  O ran addysg uwchradd, gofynnodd a oedd ffigyrau absenoldeb yn cynnwys gallu plentyn i ymdopi â’r addysg a ddarparwyd ac a fyddai’r pwysau hwn yn gallu achosi absenoldebau oherwydd iechyd meddwl. Roedd o’r farn nad oedd addasu’r cwricwlwm yn gweithio bob amser, a dywedodd fod angen darparu cymorth i’r haen islaw anghenion arbennig.  Hefyd, gofynnodd a oedd gan y Gwasanaeth Iechyd yr adnoddau i gefnogi hyn.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hughes at absenoldebau heb eu hawdurdodi ac absenoldebau wedi’u hawdurdodi ar gyfer gwyliau teuluol, a gofynnodd faint o’r rhain oedd yn bobl sy’n aildroseddu?  Yn ôl yr hyn roedd yn ei ddeall, roedd canllawiau Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo 10 diwrnod o wyliau a bod gwyliau yn rhatach yn ystod y tymor hyd yn oed os oedd rhieni wedi cynnwys y gosb ariannol hefyd.  Ategodd y Prif Swyddog y sylw hwn drwy ddweud ei fod yn anodd iawn, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, i blant ddal i fyny gyda’u haddysg ond roedd yr achosion o hyn yn digwydd yn amlach mewn ysgolion cynradd nag mewn ysgolion uwchradd. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr fod swyddogion yn gweithio gyda Phenaethiaid Ysgolion er mwyn rhoi hyder iddynt herio rheini. Roedd y sefyllfa yn wahanol os oedd plentyn yn absennol yn aml oherwydd salwch ond roedd Penaethiaid bellach yn gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth feddygol.

 

            Cytunodd y Prif Swyddog â sylwadau Mr Hytch ar chwarteli ond dywedodd fod hyn yn cyfrif am ganran fach. Hefyd, dywedodd ei bod hi wedi cyfarfod Penaethiaid i drafod cyllidebau ar gyfer pob math o anghenion. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod perthynas dda gyda chydweithwyr CAMHS ac roedd pob  ...  view the full Cofnodion text for item 43