Mater - cyfarfodydd

Additional Learning Needs (ALN) Transformation

Cyfarfod: 30/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 42)

42 Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar gynllun gweithredu’r Awdurdod ac unrhyw ddiweddariadau cenedlaethol/rhanbarthol.

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr ddiweddariad ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.  Byddai’r fframwaith statudol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol yn ymdrin ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) a Phobl Ifanc ag Anawsterau neu Anableddau Dysgu (AAD) mewn addysg a hyfforddiant ôl-16. Roedd yr amserlen ar gyfer rhoi’r Ddeddf ar waith bellach wedi symud i fis Medi 2021 er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i weithio drwy’r holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori.

 

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr adroddiad ar gyfarfod o’r Fforwm ADY a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol a oedd yn trafod y swydd-ddisgrifiad ar gyfer swydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) mewn ysgolion.  Cadarnhaodd fod Jan Williams wedi cael ei phenodi dros dro fel Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar a bod y Bwrdd Iechyd yn edrych ar y sefyllfa ariannu er mwyn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig. Cyfeiriodd at Gynllun Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Sir y Fflint a’r gwaith oedd yn cael ei wneud i ddeall ‘beth oedd darpariaeth gyffredinol’. Roedd ysgolion yn gweithio mewn clystyrau yn Sir y Fflint ac yn rhanbarthol, gyda chydweithwyr Addysg Bellach a’r Bwrdd Iechyd hefyd yn rhan o’r trafodaethau hyn. Cyfeiriodd hefyd at amserlen Llywodraeth Cymru, y goblygiadau o ran cost i’r Cyngor a’r angen am gyngor cyfreithiol clir i ddeall sut i ddehongli’r Ddeddf er mwyn sicrhau y byddai’r disgyblion sydd â’r angen mwyaf yn elwa ar hyn. O ran addysg ôl-16, dywedodd fod y sefyllfa yn aneglur ar hyn o bryd a bod angen eglurder ar y ddarpariaeth gyffredinol a’r fecanwaith ar gyfer datganoli’r arian ar gyfer darpariaeth arbenigol ôl-16.      

 

            Roedd y Cadeirydd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon yr awdurdodau lleol.

 

             Mynegodd y Cynghorydd Mackie ei bryder nad oedd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r cymorth TG sydd ei angen ar unwaith a mynegodd ei bryder ynghylch yr amserlen 2-3 blynedd bosibl ar gyfer dod o hyd i’r cymorth hwn a’i roi ar waith. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad ffurfiol eto. Roedd yr astudiaeth ddichonoldeb a luniwyd gan ranbarth Gogledd Cymru wedi cael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru ac roedd papur yn cael ei ysgrifennu i’w gyflwyno gerbron yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i’w ystyried; byddai cymhlethdod y system ofynnol yn achosi’r oedi posibl. 

 

            Gofynnodd Mrs Rebecca Stark gwestiynau am y swydd-ddisgrifiad, gan godi pryderon am y llwyth gwaith, yr oedi o ran y ddarpariaeth cymorth TG, y diffiniad o ddarpariaeth gyffredinol a gofynnodd a fyddai hyn yn aros yn rhanbarthol neu a fyddai’n dod yn genedlaethol. Hefyd, gofynnodd a oedd y rhaglen hyfforddi staff yn ddigon cadarn i sicrhau ei bod yn rhoi sylw i anghenion disgyblion. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr fod Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn fel gweithred niwtral o ran cost ac ni chafwyd unrhyw awgrym a fyddai arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu am y cyfrifoldebau ychwanegol a fyddai’n dod yn  ...  view the full Cofnodion text for item 42