Mater - cyfarfodydd
Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan
Cyfarfod: 22/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 39)
39 Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai PDF 150 KB
Pwrpas: I ystyried cyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan, eitem 39 PDF 60 KB
- Enc. 2 for Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan, eitem 39 PDF 108 KB
- Enc. 3 for Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan, eitem 39 PDF 76 KB
- Enc. 4 for Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan, eitem 39 PDF 65 KB
- Enc. 5 for Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan, eitem 39 PDF 453 KB
Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y meysydd allweddol canlynol:
- Polisi Rhenti 5 Mlynedd Newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
- Fforddiadwyedd i denantiaid
- Cynnydd Rhent Arfaethedig
- Incwm arall
- Taliadau Gwasanaeth
- Arbedion Effeithlonrwydd Refeniw
- Pwysau Refeniw
- Cyflawni Rhaglen Gyfalaf
- Rhaglen Gyfalaf Ddrafft 2020/21
- Arian Cyfalaf HRA 2020/21
- HRA – Ystyried gwerth am arian
- Arian Wrth Gefn
Soniodd y Cynghorydd Patrick Heesom am yr ymgyrch flaenorol i gadw stoc dai’r Cyngor a gofynnodd am sicrwydd nad oedd yna unrhyw gynigion i symud y gwasanaeth hwn i Fodel Darparu Amgen yn y dyfodol. Darparodd y Prif Swyddog y sicrwydd hwn.
Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn canmol swyddogion ar yr adroddiad. Soniodd am y cynnydd yn y lefelau benthyca a mynegodd bryderon y gall hyn effeithio ar y targed i adeiladu 500 o gartrefi yn y 5 mlynedd nesaf. Cyfeiriodd at gynlluniau gweithredu rheoli ystadau a gofynnodd os gellir darparu’r wybodaeth hon i’r Aelodau fesul ward. Roedd yn croesawu’r cynnig i Swyddogion Tai gael eu lleoli mewn canolfannau ar draws Sir y Fflint a hefyd croesawodd y cyllid gan Lywodraeth Cymru ond roedd yn bryderus y gall effaith y cynnydd mewn rhent, a thaliadau gwasanaeth a newidiadau i fudd-daliadau tai gael effaith negyddol ar denantiaid Hefyd gofynnodd a ymgynghorwyd â’r Ffederasiwn Tenantiaid ar y Cynllun Busnes HRA. Darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol – Masnachol a Thai wybodaeth ar y lefelau benthyca, gan egluro bod cynnydd yn y lefelau benthyca yn golygu cynnydd mewn perygl i’r rhaglen adeiladu ac felly bu’n angenrheidiol i gynyddu arian wrth gefn i lefel ddigonol er mwyn lleddfu hyn. Cadarnhaodd y Prif Swyddog yr ymgynghorir gyda’r Ffederasiwn Tenantiaid ar y cynllun busnes cyn ei ystyried yn y Cabinet a’r Cyngor Sir.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Attridge ar leihau costau i Swyddog Iechyd a Diogelwch a gwasanaethau hawliad yswiriant yn ymweld â thenantiaid bregus gydag addewid o wasanaeth dim llwyddiant – dim ffi oedd yn darparu effeithlonrwydd. Roedd yn ymwybodol o wasanaethau hawliad yswiriant yn ymweld â thenantiaid ar draws Sir y Fflint ond dywedodd mai Gwasanaethau Cyfreithiol oedd yn delio gyda nhw ac roeddent yn cael eu hamddiffyn yn gaeth.
Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i swyddogion am yr adroddiad a dywedodd am y bleidlais uchel i gynnal cartrefi’r Cyngor ar draws Sir y Fflint a chanmolodd y gwaith a wnaed i inswleiddio cartrefi modiwlar yn Garden City.
Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer a roddwyd ystyriaeth i barhau â’r rhaglen unwaith y cwblhawyd Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) ledled Sir y Fflint. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r rhaglen SATC yn cael ei aildatblygu gyda lefelau tebyg o gyllid ynghlwm i ddarparu rhaglenni dad-garboneiddio a hefyd prif safonau SATC mewn cartrefi.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson ar y posibilrwydd o leihau’r nifer o gartrefi a adeiladwyd o ganlyniad i gostau benthyca cynyddol, eglurodd y Prif Swyddog nad oedd yna gynigion i leihau’r nifer o gartrefi a adeiladwyd ... view the full Cofnodion text for item 39