Mater - cyfarfodydd

Appointment of an Independent Member to the Standards Committee

Cyfarfod: 28/01/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 98)

98 Penodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Ystyried penodi’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y swydd Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad Penodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau, ac ar ôl dilyn y broses recriwtio ar gyfer swydd wag, argymhellwyd bod Mr Mark Morgan yn cael ei benodi.

 

            Gellir penodi Aelod Annibynnol ar gyfer rhwng 4 a 6 mlynedd yn eu tymor cyntaf, ac os ydynt yn cael eu hail-benodi, am uchafswm o bedair blynedd yn eu hail dymor.Er mwyn gwasgaru dyddiadau ymddeol Aelodau Annibynnol, awgrymodd swyddogion bod Mr Morgan yn cael ei benodi am y cyfnod hiraf yn ei dymor cyntaf a nes 27 Ionawr, 2026.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Woolley gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

            Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi Mark Morgan i’r Pwyllgor Safonau nes 27 Ionawr, 2026.