Mater - cyfarfodydd

Flintshire Integrated Transport Strategy

Cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 63)

63 Strategaeth Trafnidiaeth Integredig Sir y Fflint pdf icon PDF 500 KB

Pwrpas:        Derbyn trosolwg o’r datblygiadau presennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint a gyflwynwyd diwethaf i’r Cabinet yn 2018.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Strategaeth Priffyrdd gyflwyniad ar y cyd oedd yn delio â’r meysydd canlynol:-

 

·         Hierarchaeth Cludiant yng Nghymru;

·         Nodau ac Amcanion

·         Ateb Cwbl Integredig;

·         Blaenoriaethau Allweddol Sir y Fflint; a’r

·         Allwedd i Lwyddiant

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am eu gwaith yn llunio’r Strategaeth Cludiant Integredig, dyma sylw a gefnogwyd gan nifer o Aelodau’r Pwyllgor.  Cafwyd manylion o’r mentrau a gyflwynwyd yng Nghei Connah, yn cynnwys y groesfan newydd i gerddwyr ar Ffordd yr Wyddgrug a’r gwelliannau i Wasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy a gafodd eu croesawu.  Gofynnodd am sicrwydd ynghylch amlder a diogelwch y rhwydwaith bws wrth symud ymlaen i alluogi pobl i barhau i gael mynediad i gyflogaeth ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

Wrth ymateb i’w gwestiwn fe groesawodd y Cynghorydd Dave Wisinger y wybodaeth a ddarparodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet ar gyflwyno llwybr beicio o’r Wyddgrug i Airbus a fyddai’n cysylltu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac yn cynnwys Queensferry a Sandycroft.

 

Croesawodd y Cynghorydd Chris Dolphin y gwaith sy’n cael ei wneud i ddarparu gwasanaethau bws mewn ardaloedd gwledig.  Mynegodd ei bryderon ynghylch Trafnidiaeth Cymru yn lleihau amseroedd ac amlder gwasanaethau rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru ond fe groesawodd y sylwadau gan y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet fod adborth a chynrychiolaeth ar y pryderon hyn yn cael eu gwneud gan y Cyngor.  Fe groesawodd y mesurau diogelwch arfaethedig ar gyfer Well Hill, Treffynnon.  Mewn ymateb i’w gais ar ddiweddaru’r amserlenni bysiau mewn gorsafoedd bysiau ar draws Sir y Fflint fe sicrhaodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet ei fod yn y broses o gael ei ddiweddaru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans am eglurhad ar y union leoliad i bobl gael mynediad i Wasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy.  Eglurodd y Prif Swyddog fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau man codi/gollwng ar gyfer Gwasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy ar Ffordd Tata Steel. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas y byddai wedi hoffi gweld cyfeiriad at drydaneiddio’r llinell rheilffordd yn y Strategaeth gan dynnu sylw hefyd at y gwyriadau rheolaidd yn eu lle oherwydd achosion ar yr A55 a oedd yn ei farn ef yn cael effaith andwyol ar rwydwaith y Sir.  Dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar fannau cyfyng yn dilyn gwyriadau o’r A55 ond fe sicrhaodd yr Aelodau fod y Cyngor yn edrych am gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith gwelliannau o ganlyniad i ddefnydd ychwanegol o rwydwaith y Sir.

 

Mynegodd y Cynghorydd George Hardcastle ei bryderon am y cynigion i gyflwyno llwybr beics ar hyd Aston Hill a’r diffyg ymgynghoriad a fu gydag Aelodau Lleol.  Roedd ganddo bryderon diogelwch os oedd y llwybr beicio ddim yn cynnwys rhwystrau diogelwch.  Cytunodd y Prif Swyddog i drafod hyn gyda’r Cynghorydd Hardcastle ar ôl y cyfarfod.

 

Trafododd y Cynghorydd Mike Peers nodau ac  ...  view the full Cofnodion text for item 63