Mater - cyfarfodydd

Rough Sleepers Briefing Paper

Cyfarfod: 18/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 32)

32 papur briffio cysgwyr garw pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Amlinellu camau gweithredu â blaenoriaeth sy'n cael eu cymryd i daclo ac atal digartrefedd yn y Sir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar y camau blaenoriaeth sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â digartrefedd a’i atal ledled Sir y Fflint, fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Digartrefedd Lleol y Cyngor, oedd wedi’i seilio ar dair prif thema’r Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y thema ‘Pobl’ a’i flaenoriaeth, sef pobl sy’n cysgu allan.

 

Cydnabuwyd nad oedd cysgu allan yn rhywbeth oedd wedi’i gyfyngu i drefi a dinasoedd mawr mwyach, gan ei fod yn ymestyn i ardaloedd eraill fel cymunedau yn Sir y Fflint. Roedd nifer o ffactorau’n cyfrannu at hyn, yn aml yn ymwneud â phroblemau cymhleth hirdymor, oedd yn gofyn am ymateb amlasiantaeth, gan gynnwys y tîm Cyffuriau ac Alcohol, a’r timau Tai a Lles. Ar ôl i’r darparwr gwasanaeth ddod â’r ddarpariaeth gwlâu mewn argyfwng i ben yn Sir y Fflint, canfuwyd cyfleuster arall dros dro yn Shotton ar gyfer y gwasanaeth lloches nos. Gyda’r broses recriwtio’n mynd rhagddi, y gobaith yw y bydd y gwasanaeth newydd ar gael o fis Ionawr am gyfnod o 18 mis i ddwy flynedd, nes y gellir canfod llety parhaol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog am yr ystod o fentrau cadarnhaol a ddarparwyd drwy’r Cynllun Gweithredu Lleol, megis hyrwyddo’r ap Streetlink. Roedd yr adroddiad yn manylu ar yr amrywiol resymau dros ddigartrefedd, gyda chanran fawr yn ganlyniad i rieni yn methu neu’n amharod rhoi llety i’r unigolyn. Roedd y tîm wedi ymgysylltu’n ddiweddar â phedwar unigolyn y canfuwyd eu bod yn cysgu allan, ond roedd yn sylweddoli bod mwy o bobl allan yno, gan gynnwys syrffwyr soffa. Roedd y broses recriwtio’n mynd rhagddi ar gyfer y gwasanaeth Tai yn Gyntaf, oedd yn fodel effeithiol ar gyfer ymgysylltu a darparu cymorth cofleidiol i bobl sy’n cysgu allan gyda nifer o anghenion cymhleth.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr, croesawodd y Cadeirydd y peilot Tai yn Gyntaf gan ddweud y dylid canmol y Cyngor am ei ddull o fynd i'r afael â digartrefedd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Attridge i’r swyddogion a’r Aelod Cabinet am yr adroddiad a’r camau gweithredu roedd y Cyngor yn eu cymryd. Dywedodd ei fod yn siomedig bod partner strategol y Cyngor wedi rhoi’r gorau i’r ddarpariaeth gwlâu mewn argyfwng ar fyr rybudd, ac y gallai cymdeithasau tai wneud mwy i fynd i’r afael â digartrefedd yn Sir y Fflint.  Mewn ymateb i gwestiynau, siaradodd y Prif Swyddog am ddatblygu’r dull amlasiantaeth yn fodel effeithiol i helpu cael pobl oddi ar y strydoedd. Roedd darparwr gwasanaeth y lloches nos yn awyddus i ddatblygu a hyfforddi gwirfoddolwyr, a bydd yn cydweithio ag amrywiol sefydliadau megis Help the Homeless.  Dywedodd y Rheolwr Digartrefedd a Chyngor y byddai sefydlu cysylltiadau â gwirfoddolwyr, gan gynnwys aelodau'r cyhoedd, yn darparu rhwydwaith o gymorth i helpu pobl mewn angen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at drafodaethau am ddatblygu Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, gan awgrymu cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd i edrych ar y pwnc mewn mwy o fanylder.  ...  view the full Cofnodion text for item 32