Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan

Cyfarfod: 28/01/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 95)

95 Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2020/21, Cynllun Busnes HRA a'r Crynodeb o'r Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd i'w gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol – Masnachol a Thai, Gynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai, a oedd yn cynnwys cynnydd arfaethedig i rhent, a ystyriwyd yng Nghabinet ar 21 Ionawr, 2020.

 

            Rhoddwyd cyflwyniad a oedd yn trafod:

 

·         Cynllun Busnes 30 mlynedd;

·         Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru 2020/21;

·         Cynnydd Arfaethedig i Rent 2020/21;

·         Incwm Arall;

·         Taliadau Gwasanaeth 2020/21;

·         Arbedion Effeithlonrwydd Refeniw;

·         Pwysau ar Refeniw;

·         Darparu’r Rhaglen Gyfalaf;

·         Rhaglen Gyfalaf Ddrafft 2020/21;

·         Cyllid Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai 2020/21;

·         Y Cyfrif Refeniw Tai – Ystyried Gwerth am Arian; a

·         Cronfeydd Wrth Gefn

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Attridge yr argymhellion.Darparodd fanylion o sylw a wnaeth yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ar effaith gronnol cynyddu rhent a taliadau gwasanaeth eraill.I denantiaid sy’n gweld hi’n anodd, gan gynnwys preswylwyr mewn tai gwarchod, rhoddwyd sicrwydd gan y Prif Swyddog y byddai’r ffioedd hynny’n cael eu talu gan fudd-daliadau tai. Gwnaed llawer o waith dros y blynyddoedd i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwerth am arian, a oedd yn braf gweld.

 

Eiliodd y Cynghorydd Dave Hughes yr argymhelliad a dywedodd ei fod yn falch o beth sydd wedi cael ei gyflawni a byddai swyddogion yn parhau i adeiladu ar lefelau presennol yr uchelgais. Gosodwyd y polisi rhenti gan LC am 5 mlynedd, a dyma oedd yr uchafswm a ellir ei godi, a byddai landlordiaid yn ystyried gwerth am arian ynghyd â fforddiadwyedd i denantiaid, gan ystyried costau byw mewn eiddo yn llawn fel rhan o’r rhesymeg dros osod cynnydd mewn ffioedd rhenti. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Peers sylw ar  Grynodeb y Cynllun Busnes 30 Blynedd a oedd wedi ei atodi i’r adroddiad a dywedodd, yn 2020/21, roedd gwariant yn 65% o’r incwm, gan gynyddu ym mlwyddyn 10 i 67% o’r incwm. Gofynnodd sut oedd hyn yn cymharu â chyfartaledd Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog pan fydd y wybodaeth honno ar gael, byddai’n cael ei rhannu gydag Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carver, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid mai’r cynnydd trosiannol i denantiaid a oedd o dan rhent targed ar hyn o bryd oedd £2 yr wythnos, fel yr oedd wedi bod yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Jones sylw ar y sawl oedd yn gweld hi’n anodd parcio ceir mewn llety gwarchod, oherwydd nid y preswylwyr h?n oedd o hyd yn defnyddio’r fath lety. Awgrymodd y dylid ystyried buddsoddiad mewn meysydd parcio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod adolygiad o llety gwarchod yn cael ei gynnal, gan gynnwys yn y cyd-destun ehangach.Roedd parcio ceir hefyd yn cael ei drin dan Safon Ansawdd Tai Cymru, a matrics gwerthusiad manwl wedi cael ei gymeradwyo yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter i’r hyn oedd ei angen a sut y gellir ei ddarparu mewn mannau amrywiol.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hinds ar ffioedd d?r nawr yn cael eu codi’n uniongyrchol ar breswylwyr, esboniodd y Prif Weithredwr bod hyn wedi bod yn ofyniad penodol gan y cwmni d  ...  view the full Cofnodion text for item 95