Mater - cyfarfodydd

Homeless Update on Regional Homeless Strategy and Local Action Plan

Cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet (eitem 115)

115 Diweddariad Digartrefedd ar y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol a'r Cynllun Gweithredu Lleol pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cefnogi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ar Ddiweddariad Digartrefedd ar y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol a'r Cynllun Gweithredu Lleol oedd yn egluro mai amcanion y Strategaeth Ddigartrefedd oedd atal digartrefedd a sicrhau llety addas, a bod cymorth boddhaol ar gael i’r rhai oedd yn ddigartref.

 

                        Roedd rhanbarth Gogledd Cymru wedi cytuno â’r themâu cyffredin Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau. Roedd bob Cyngor wedi datblygu ei gynllun gweithredu ei hun yn seiliedig ar y themâu o fewn y strategaeth ranbarthol ond gan adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Roedd y cynllun lleol yn Sir y Fflint wedi nodi camau blaenoriaeth i atal a mynd i’r afael â digartrefedd yn y Sir. Rhannwyd hyn yn dair brif thema:

 

  1. Pobl - digartrefedd  ymysg pobl ifanc, rhai sy’n cysgu allan, anghenion cymhleth a rhai sy’n gadael carchar;
  2. Cartrefi – tai’n gyntaf, gwella mynediad i’r cyflenwad llety a llety dros dro; a
  3. Gwasanaethau – atal/ymyrraeth, diwygio lles ac iechyd.

 

Roedd adolygiad llawn o lety dros dro a ddefnyddir gan y Tîm Datrysiadau Tai ar gyfer pobl ddigartref wrthi’n cael ei baratoi a bydd y canfyddiadau ar gael erbyn diwedd Rhagfyr 2019.

 

Dogfen allweddol, oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad, oedd Darpariaeth Protocol Brys Tywydd Difrifol (SWEP) yn Sir y Fflint. Roedd yn egluro, er mwyn lleihau’r risg i rai sy’n cysgu allan, os yw’n bosibl, y bydd llety’n cael ei ddarparu yn ystod cyfnodau o dywydd mawr neu amgylchiadau eithafol eraill. Defnyddiwyd SWEP yn ddiweddar a byddai’n cael ei ddefnyddio eto'r noson honno, gyda Phrif Swyddog (Tai ac Asedau) a’i swyddogion yn gweithredu’r ddarpariaeth. Roedd y llety oedd yn cael ei ddefnyddio gan yr awdurdod yn llety dros dro ond roedd bwriad i’w wneud yn barhaol. Diolchodd aelodau i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu holl waith ar hyn.

 

Cyfeiriodd y Prif Wethredwr at y lloches barhaol flaenorol a symudwyd gan landlord, oedd wedi arwain at ymrraeth gan y Cyngor. Roedd y Cyngor wedi ymateb i’r sefyllfa’n gyflym ac yn ystyried rheoli’r sefyllfa. Hefyd diolchodd i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu help gyda’r ymrraeth a’r ddarpariaeth barhaus.

 

Cyfeiriodd aelodau at y ffaith pe bai cymorth yn cael ei wrthod, na ellid gorfodi’r digartref i ddefnyddio’r gwasanaethau a gynigir iddynt.

                                                                       

PENDERFYNWYD:

           

            Cefnogi’r diweddariadau i’r Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Digartrefedd.