Mater - cyfarfodydd

Proposals for Infrastructure Improvements at Standard Yard Waste Transfer Station

Cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet (eitem 111)

111 Cynigion ar gyfer Gwelliannau Seilwaith yng Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff Iard Safonol pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer uwchraddio’r Depo ailgylchu presennol yn Ystâd Ddiwydiannol Safonol, Bwcle.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yCynghorydd Thomas yr adroddiad ar Gynigion ar gyfer Gwelliannau Seilwaith yng Ngorsaf Trosglwyddo Gwastraff Iard Safonol (WTF) oedd yn amlinellu’r cynigion ar gyfer cyllid i ddatblygu’r WTF. Gofynnodd am gymeradwyaeth i ddatblygu’r prosiect.

 

            Roedd cyfle wedi codi i ymestyn y safle er mwyn i’r WTS weithredu dan do ar un safle a chynyddu maint y safle. Byddai hyn yn hwyluso twf a chapasiti yn y dyfodol, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd a chydymffurfio amgylcheddol ar y safle. Yn ei dro byddai’r cyfleuster newydd yn galluogi’r Cyngor i gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau halogi deunyddiau a chynyddu ansawdd deunyddiau a ailgylchir, a thrwy hynny sicrhau cymaint o incwm â phosibl ar gyfer deunyddiau a ailgylchir i’r Cyngor.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynigion ar gyfer datblygu’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff; a

 

(b)       Chymeradwyo’r ceisiadau arfaethedig am gyllid oedd eu hangen ar gyfer y gwelliannau i’r Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Safonol.