Mater - cyfarfodydd

Short Stay Car Parking in Buckley

Cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet (eitem 120)

120 Maes Parcio Arhosiad Byr ym Mwcle pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y cynnig parcio am ddim ym Maes Parcio Brunswick, Bwcle i un awr.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar y Maes Parcio Arhosiad Byr ym Mwcle oedd yn gofyn i Aelodau ystyried cynyddu’r amser parcio am ddim am hanner awr ym Maes Parcio Ffordd Brunswick i awr, er mwyn i siopwyr gael mwy o amser i ddefnyddio cyfleusterau canol y dref a chefnogi busnesau lleol, gyda’r Cyngor Tref yn sybsideiddio cost y cyfnod ychwanegol am ddim.

                       

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r penderfyniad i gynyddu’r amser parcio am ddim o hanner awr i awr ym Maes Parcio Ffordd Brunswick, Bwcle, gyda chymorth ariannol gan y Cyngor Tref ar gyfer y refeniw a gollir.