Mater - cyfarfodydd
Treasury Management Mid-Year Review 2019/20
Cyfarfod: 28/01/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 96)
96 Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20 PDF 124 KB
Pwrpas: Cyflwyno drafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019/20 i'r Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Treasury Management Mid-Year Review 2019/20, eitem 96 PDF 167 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20. Roedd crynodeb o bwyntiau allweddol i'w gweld yn yr adroddiad.
Derbyniodd Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio gopi o’r adroddiad ar 20 Tachwedd, ac fe'i argymhellwyd i’r Cabinet. Derbyniodd y Cabinet yr adroddiad Canol Blwyddyn ar 17 Rhagfyr, 2019, a’i argymell i’r Cyngor i’w gymeradwyo.
Cynigiodd y Cynghorydd Banks gymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
Gofynnodd y Cynghorydd Peers am wybodaeth ychwanegol ar y ddau fenthyciad tymor hir newydd sydd wedi cael eu cymryd gan y Bwrdd Benthyciadau Gweithiau Cyhoeddus yn 2019/20. Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod angen benthyg i noddi'r Rhaglen Gyfalaf, ac y gallai ddarparu manylion pellach os oes angen.Roedd cyfraddau llog gan llywodraeth ganolog yn isel, a oedd yn golygu bod gosod ad-daliadau tymor hir yn cynnig gwerth ariannol i’r Cyngor.
Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019/20.