Mater - cyfarfodydd
Theatr Clwyd Trust Model Transition Staged Update Report
Cyfarfod: 27/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 40)
Adroddiad Diweddaru Fesul Cam Trawsnewid Model Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd
Pwrpas: Derbyn adroddiad fesul cam ar gynnydd hyd yma yn trosglwyddo Theatr Clwyd i fodel llywodraethu newydd o dan Fodel Cyflawni Amgen (MCA) y Cyngor erbyn Ebrill 2021.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (40/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (40/3)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad fesul cam ar gynnydd hyd yma ar drosglwyddo Theatr Clwyd i fodel llywodraethu newydd o dan Fodel Cyflawni Amgen (MCA) y Cyngor erbyn Ebrill 2021, a gytunwyd gan y Cabinet mewn egwyddor. Cynghorodd mai’r amcan oedd diogelu dyfodol Theatr Clwyd ac mai model ymddiriedolaeth annibynnol oedd y model a ffafriwyd i gyflawni hyn. Byddai angen gwneud penderfyniad terfynol ar wneud trosglwyddiad erbyn canol 2020 i ganiatáu digon o amser ar gyfer cynllunio trosiannol.
Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Johnson ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd i ddiogelu trosglwyddiad i fodel ymddiriedolaeth annibynnol ar gyfer Theatr Clwyd ar ffurf cwmni cyfyngedig drwy warant gyda statws elusennol, ar gyfer 1 Ebrill 2021; a
(b) Chefnogi penderfyniad terfynol ar drosglwyddiad yn 2020, yn seiliedig ar adroddiad diwydrwydd dyladwy llawn a therfynol.