Mater - cyfarfodydd
Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud Response Plan
Cyfarfod: 10/12/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 80)
80 Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a Chynllun Ymateb i Dwyll PDF 97 KB
Pwrpas: Cael cytundeb Aelodau i’r newidiadau a wnaed o fewn Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a Chynllun Ymateb i Dwyll y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud Response Plan, eitem 80 PDF 328 KB
- Enc. 2 for Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud Response Plan, eitem 80 PDF 318 KB
- Enc. 3 for Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud Response Plan, eitem 80 PDF 463 KB
- Enc. 4 for Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud Response Plan, eitem 80 PDF 440 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a Chynllun Ymateb i Dwyll
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth ac adroddiad y Cynllun Ymateb i Dwyll a ysgrifennwyd er lles gweithwyr, Aelodau, y cyhoedd, sefydliadau a busnesau sy’n delio gyda'r Cyngor a ddisgwylir i weithredu ag uniondeb hefyd.
Amlinellodd y Strategaeth ymrwymiad y Cyngor i atal a chanfod twyll a’i bolisi ‘dim goddefgarwch’ tuag at weithredoedd twyll a llygredigaeth tebyg.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar 27 Tachwedd lle cafodd ei gefnogi.
Cynigiodd y Cynghorydd Heesom gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hardcastle.
Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid cymeradwyo'r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth ddiwygiedig; ac
(b) Y dylid cymeradwyo’r Cynllun Ymateb i Dwyll diwygiedig.