Mater - cyfarfodydd

Whistleblowing Policy

Cyfarfod: 10/12/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 81)

81 Polisi Rhannu Pryderon pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth Aelodau i’r newidiadau a wnaed i Bolisi Rhannu Pryderon y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad y Polisi Rhannu Pryderon a oedd yn esbonio sut mae'r Polisi yn galluogi gweithwyr, Aelodau ac unigolion trydydd parti (partneriaid, ymgynghorwyr, gwirfoddolwyr, cyflenwyr, contractwyr, gan gynnwys eu gweithwyr) y Cyngor i godi pryderon sydd ganddynt, a rhoddodd sicrwydd ynghylch cyfrinachedd a diogelu.

 

            Roedd yn nodi’r weithdrefn i’w dilyn wrth godi pryder a sut y byddai’r Cyngor yn ymateb. Rhoddodd y polisi enghreifftiau o’r mathau o bryderon y gellid eu codi.

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar 27 Tachwedd lle cafodd ei gefnogi, gydag un newid sef cynnwys Aelodau lleol fel ‘person a ragnodir’ i adrodd pryder. Darperir hyfforddiant yn y Flwyddyn Newydd mewn perthynas â hynny.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y gellid cynnal yr hyfforddiant cyn cyfarfodydd sydd wedi’u trefnu ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a fyddai’n helpu i godi lefelau presenoldeb. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Jones am eglurhad nad oedd yr Heddlu yn ‘berson a ragnodir' a chadarnhawyd hynny. Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Polisi Rhannu Pryderon yn un eang ac mae’n bosibl y byddai mater yn codi a fyddai’n gorfod cael ei adrodd wrth yr Heddlu. Fodd bynnag, yn gyntaf byddai’n briodol codi’r materion hynny gyda’r bobl a enwir yn y polisi gan fod materion posibl y byddai angen mynd i’r afael â nhw yn y Cyngor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kevin Hughes.

 

 Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Polisi Rhannu Pryderon fel y’i diwygiwyd.