Mater - cyfarfodydd
Outcome of the Waste Strategy Review Consultation Process
Cyfarfod: 10/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 47)
47 Canlyniad Ymgynghoriad y Strategaeth Wastraff PDF 126 KB
Ceisio argymhelliad y Cabinet i gymeradwyo’r diwygiad i’r Strategaeth Wastraff yn dilyn y broses ymgynghori ddiweddar.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Collated consultation responses, eitem 47 PDF 55 KB
- Appendix 2 - Approach to robust enforcement, eitem 47 PDF 46 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo newidiadau i’r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Diolchodd i breswylwyr am weithio gyda’r Cyngor i gynnal y perfformiad cryf o ran ailgylchu, sef y trydydd gorau yng Nghymru ar hyn o bryd.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod yr argymhellion yn ystyried mwy nag 8,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad, yn adlewyrchu newidiadau i’r strategaeth genedlaethol ac yn ceisio rhagor o welliant o ran perfformiad ailgylchu i gyrraedd targedau yn y dyfodol. Er nad oedd cefnogaeth ar hyn o bryd o ran newid amlder casgliadau bin du, roedd 32% o breswylwyr wedi dweud nad oeddent yn sicr a fyddent yn ymdopi pe bai newid o’r fath yn digwydd. Argymhellwyd bod y dewis hwn yn cael ei adolygu eto ymhen 12 mis i ddeall effaith newidiadau gan Lywodraeth Cymru (LlC) i’r strategaeth genedlaethol. Roedd y cynnig am ragor o orfodaeth wedi’i gefnogi’n eang, gyda rhai preswylwyr yn cydnabod yr angen am atebolrwydd.
Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai nod y cynigion oedd cyflawni effaith gadarnhaol drwy newidiadau o ran ymddygiad. Wrth gydnabod pryderon o ran rhagor o orfodaeth, roedd y dull tri cham yn caniatáu ar gyfer hysbysu ac addysgu i ddechrau, gyda chamau ffurfiol yn cael eu cymryd ar gyfer achosion parhaus o ddiffyg cydymffurfio. Roedd ystadegau presennol yn dangos pa mor effeithiol oedd y broses wrth helpu preswylwyr i ddeall a dilyn y system. Ymhlith y newidiadau arfaethedig eraill roedd rhaglen addysg i breswylwyr, treial casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol a ariennir gan LlC, adolygiad o lwybrau casglu gwastraff a gwahanu deunydd ailgylchu cardfwrdd a phapur i gynhyrchu incwm ychwanegol.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y dylid annog preswylwyr i ailgylchu rhagor o wastraff bwyd a’i bod yn gallu ymweld ag ysgolion a chymunedau i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau arfaethedig. Soniodd hefyd am ymgyrch genedlaethol i gynyddu addysg am ailgylchu.
Er ei fod o blaid rhagor o orfodaeth i’r rhai sy’n methu ailgylchu dro ar ôl tro, dywedodd y Cynghorydd Peers fod rhaid ystyried unrhyw ffactorau sy’n cyfrannu at hyn, er enghraifft oedran neu broblemau iechyd. Gofynnodd a oedd digon o gapasiti mewn criwiau casglu gwastraff i gynnal y rhestr fonitro ar gyfer ailgylchu a ddylai fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio na ddylai fod unrhyw effaith ar y criwiau a bod enwau preswylwyr yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr fonitro pan nad oedd angen camau gorfodi bellach. Nodwyd preswylwyr diamddiffyn sy’n cael problemau gydag ailgylchu ac roedd proses ar waith i dargedu cefnogaeth briodol. Gan ymateb i gwestiynau pellach, eglurwyd y byddai casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn adlewyrchu’r casgliadau gwastraff meddygol presennol gyda bag ar wahân. Roedd gwahanu papur a chardfwrdd yn newid gweithredol a adlewyrchwyd drwy adborth i’r ymgynghoriad hefyd a byddai’n cael ei gyflwyno mewn camau.
Cododd y Cynghorydd Hardcastle bryderon fod rhai preswylwyr h?n neu ddiamddiffyn yn ansicr sut i ailgylchu a gallent fod yn pryderu am orfodaeth bosibl. Siaradodd o ... view the full Cofnodion text for item 47