Mater - cyfarfodydd
Estyn Post Inspection Action Plan
Cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet (eitem 114)
114 Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg Estyn PDF 97 KB
Pwrpas: Hysbysu'r Aelodau o’r Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg Estyn yn dilyn yr Arolwg diweddar gan Estyn o Wasanaethau Addysg Cyngor Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg Estyn oedd yn argymell cymeradwyo’r cynllun gweithredu drafft.
Roedd yr argymhellion wedi’u casglu ynghyd a byddent yn rhan o Gynllun y Cyngor a Chynllun Busnes Addysg ac Ieuenctid. Byddai cynnydd ar yr argymhellion hynny’n cael eu monitro bob mis a’u hadrodd yn rheolaidd i’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.
PENDERFYNWYD:
Derbyn y cynllun gweithredu ôl arolwg drafft fel yr un terfynol.