Mater - cyfarfodydd

Council Fund Revenue Budget 2020/21

Cyfarfod: 10/12/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 78)

78 Diweddariad ar Gyllideb 2020/21 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Cymeradwy’r pwysau ariannol a’r arbedion effeithiolrwydd hyd yma yn dilyn adborth gan y Pwyllgorau Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2020/21 a oedd yn nodi’r canlynol:

 

·         y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf ar gyfer 2020/21;

·         y gwaith hyd yma i ddatblygu a chytuno ar ddatrysiadau lleol i lenwi’r ‘bwlch’ a ragwelir yn y gyllideb ofynnol ar gyfer 2020/21 o fewn y rhagolwg;

·         y trefniadau ar gyfer Cyllideb Llywodraeth Cymru a Setliad Dros Dro Llywodraethau Lleol a'r disgwyliadau mewn perthynas â hynny - disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi gyda’i gilydd ar 16 Rhagfyr;

·         yr opsiynau lleol sy’n weddill i gyflawni cyllideb gytbwys gyfreithiol ar gyfer 2020/21 ochr yn ochr â’r Setliad; a

·         yr amserlen i gwblhau’r gyllideb erbyn Mawrth 2020.

 

Ers cyhoeddi’r adroddiad, roedd dau gyfarfod ymgynghori olaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cael eu cynnal ac roedd atodiad wedi’i ddiweddaru a’i ddarparu i’r Aelodau a oedd yn cynnwys ymatebion pob un o’r chwech Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd pob Pwyllgor wedi derbyn crynodeb o’r pwysau o ran costau yn ôl portffolios gwasanaeth. Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw beth gwahanol i’r argymhellionyn cael ei gyflwyno i Aelodau yn dilyn cyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. 

 

Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn darparu’r rhagolwg ariannol diweddaraf a oedd wedi cael ei adolygu i gymryd i ystyriaeth y newidiadau mewn pwysau gan gynnwys rhagolwg gwreiddiol mis Ebrill a phwysau newydd a oedd yn anhysbys neu heb gael eu deall a'u cyfrifo'n iawn cyn hynny. O ganlyniad i’r newidiadau, tyfodd y bwlch yn y gyllideb i £16.355m ym mis Rhagfyr, sef cynnydd o £0.181m.

 

Roedd yr atebion a oedd ar gael i alluogi’r Cyngor i gydbwyso cyllideb 2020/21 wedi’u dosbarthu fel a ganlyn:

 

·         Cyllid Cenedlaethol;

·         Cynlluniau Busnes Portffolios a Chyllid Corfforaethol;

·         Trethi ac Incwm Lleol; a

·         Newid Sefydliadol.

 

Wrth roi sylwadau am ddyfarniad cyflog blynyddol athrawon, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y Cyngor yn disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn talu’r dyfarniad cyflog yn llawn yn 2020/21.  Ar sail hynny, roedd modd tynnu £0.726m o’r rhagolwg gan roi ffigwr adolygedig o £15.629m. Byddai cadarnhad yn cael ei geisio gan LlC yngl?n â'u cynlluniau ar gyfer dyfarniadau cyflog blynyddol rhwng nawr a’r camau olaf o osod y gyllideb.

 

Darparodd fanylion llawn arbedion ac incwm o gynlluniau busnes portffolios, arbedion cyllid corfforaethol, treth ac incwm lleol a newid sefydliadol.

 

Byddai cyfuniad o arbedion ac incwm portffolios cyllid corfforaethol, incwm sy’n deillio o lefel ddangosol o gynnydd yn Nhreth y Cyngor, a’r ‘difidend’ o adolygiad actiwaraidd Cronfa Bensiynau Clwyd a grynhoir yn yr adroddiad, yn cynhyrchu cyfraniad sylweddol o £8.164m at y gyllideb.

 

Yr unig opsiynau lleol sydd ar ôl i’w hadolygu er mwyn adeiladu ar y cyfraniad, yn ddibynnol ar ganlyniad cyllideb LlC oedd (1) adolygiad pellach o gyfraniadau cyflogwyr Cronfa Bensiynau Clwyd mewn cysylltiad ag Actiwari'r Gronfa; (2) rhannu pwysau costau ysgolion gyda’r ysgolion eu hunain; (3) set gyfyngedig o ddarpariaethau cyllid corfforaethol eraill megis arenillion rhagweledig o Dreth y Cyngor a chyfraddau adfer Gostyngiad Person Sengl; (4) gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer codi ffioedd comisiynu darparwyr gofal cymdeithasol wrth i drafodaethau blynyddol  ...  view the full Cofnodion text for item 78