Mater - cyfarfodydd

Investment Strategy Review Including Responsible Investment Policy

Cyfarfod: 28/11/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 88)

88 Adolygiad o'r strategaeth fuddsoddi, yn cynnwys polisi buddsoddi cyfrifol pdf icon PDF 190 KB

Cyflwynocanlyniadau’r Adolygiad o’r Strategaeth fuddsoddi i Aelodau’r Pwyllgor a chytuno ar ddyraniad strategol yr asedau ac ymgynghori ar y Polisi Buddsoddi Cyfrifol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynegodd Mr Latham bwysigrwydd Dyrannu Asedau Strategol gan y bydd canlyniadau’r Prisiad Actiwaraidd nesaf yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau a wneir heddiw.  Yn ffodus, mae'r Gronfa yn dechrau gyda strategaeth amrywiol iawn felly mae'r addasiadau yn fwy o brosesau bychan nag un newid mawr.Amlinellodd y gofynnir i’r Pwyllgor gytuno ar y newidiadau arfaethedig i’r strategaeth yn y cyfarfod hwn ac yna byddai Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror.

Cyflwynodd Mr Harkin y diwygiadau arfaethedig i’r Dyraniad Asedau Strategol gan fynegi’r pwyntiau allweddol canlynol;

-       Mae’r Gronfa wedi’i hariannu’n well heddiw ond mae’r Gronfa yn parhau i fod mewn diffyg felly mae angen i ni fuddsoddi i gyflawni’r lefel ofynnol o elw.

-       Mae'r dull integredig yn golygu cael y balans cywir o Fuddsoddiadau, Cyllid a Chyfamod.  Mae’r Gronfa ar y blaen o gymharu â chronfeydd eraill gan fod strategaeth Llwybr Cyrraedd Targed eisoes ar waith, lle bo cronfeydd eraill yn dechrau meddwl am reoli risg yn awr.

-       Yr hyn sy'n allweddol yw canolbwyntio ar elw hir dymor, drwy osod dyraniad asedau yn seiliedig ar ragolygon marchnad 10 mlynedd Mercer.

-       Mae marchnadoedd preifat wedi bod yn hynod lwyddiannus ar gyfer y Gronfa; yr her yw sicrhau y gallwn barhau gyda’r hyn sydd gennym.

-       Mae’r elw a ddisgwylir yn cael ei gynhyrchu drwy ddatganiad ystadegol gan Mercer.  Bydd gan Mercer ragolygon nad ydynt yn cael eu gwireddu bob tro ond mae’n sicrhau bod dyraniad asedau yn effeithiol.

Eglurodd Mr Harkin y disgwyliwyd i’r strategaeth fuddsoddi bresennol a osodwyd yn 2016 ddarparu 6.1% y flwyddyn yn seiliedig ar ragolygon y farchnad ar y pryd.  Ond, yn seiliedig ar ragolygon y farchnad yn 2019 byddai’r elw a ddisgwylir yn gostwng i 5.4% y flwyddyn.  Y neges yw y dylid disgwyl llai o elw yn y dyfodol.  Felly, bydd yn hanfodol sicrhau bod dyraniad asedau yn gallu cyflawni elw sy’n fwy na chyfradd ddisgownt yr Actiwari h.y.  CPI a 3.2% sydd wedi’i gynnig.  Mynegodd Mr Harkin fod yr hinsawdd bresennol mewn perthynas â buddsoddiadau yn ansicr felly mae’n bwysig canolbwyntio ar y llwybr tymor hir, ond bydd hyn yn anoddach yn y dyfodol.

            Eglurodd Mr Harkin fod y cynigion allweddol wedi’u nodi yn yr adroddiad eglurhaol a’r cyflwyniad ond fe’u crynhodd yn fras fel;

  1. Buddsoddi mwy mewn marchnadoedd sydd yn dod i’r amlwg.
  2. Dadfuddsoddi’n llwyr o Gronfeydd Twf Amrywiol.
  3. Ailstrwythuro mandad Cronfeydd Mantoli.
  4.  Ail-gategoreiddio Marchnadoedd Preifat; 
  5. Creu portffolio buddsoddi lleol / effaith
  6. Adolygu Fframwaith Arian Parod a Rheoli Risg (CRMF).

            Gofynnodd y Cynghorydd Bateman beth yw Buddsoddiadau Effaith.  Nododd Mr Buckland bod y buddsoddiadau hyn yn ceisio gwneud cyfraniadau cadarnhaol i gymdeithas yn ogystal â diwallu gofynion risg / elw buddsoddiad.  Mae buddsoddiad cyfrifol yn ymwneud â sicrhau cynaliadwyedd hirdymor, ond, Buddsoddiadau Effaith yw’r cam nesaf, lle byddant yn canolbwyntio ar wneud effaith gadarnhaol a chynhyrchu elw ar gyfer y Gronfa.

            Holodd Mr Hibbert sut mae’r Gronfa yn mynd i gofnodi ac adrodd yr effaith.  Nododd Mr Buckland  ...  view the full Cofnodion text for item 88