Mater - cyfarfodydd
North East Wales (NEW) Homes Business Plan 2019/2048
Cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet (eitem 116)
116 Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Fwrdd NEW Homes PDF 126 KB
Pwrpas: Nodi a gwneud sylwadau ar y cynnydd a wnaed ar ddarparu Cynllun Busnes NEW Homes 2019/2048.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes adroddiad ar Gynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048 oedd yn cynnwys elfennau allweddol o Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu nifer y Tai Rhent Fforddiadwy yn ystod y tair blynedd nesaf, o 207 uned. Byddai hyn yn cynyddu cyfanswm yr eiddo a reolir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i 309.
Roedd ymrwymiad ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i gael cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer unrhyw Gynllun Busnes sy’n darparu amcanion strategol y cwmni.
Darparwyd manylion am gynnydd cyffredinol da y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), gydag Aelodau’n croesawu’r amrywiaeth o ran daliadaeth.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r cynnydd a wnaed o ran darparu Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2019/2048.