Mater - cyfarfodydd
Submission of Certified Grants and Returns 2018/19
Cyfarfod: 20/11/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 42)
42 Cyflwyniad Grantiau Ardystiedig a Ffurflenni 2018/19 PDF 103 KB
Rhoi gwybod i’r aelodau am gynnydd o ran cyflwyno hawliadau grant sy’n gofyn am ardystiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2019 ac i roi diweddariad ar gynnydd gyda’r camau gweithredu yn deillio o broses ardystio 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar gynnydd i gyflwyno hawliadau grantiau oedd yn gofyn am ardystiad grant gan Swyddfa Archwilio Cymru am y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2019. Yn ogystal, rhoddodd yr adroddiad fanylion cynnydd ar gamau’n codi o broses ardystio 2017/18 ac amlinellodd y newidiadau i Broses Archwilio Allanol y Grant o 2019/20.
Cyflwynwyd yr 11 hawliad grant ar gyfer 2018/19 i Swyddfa Archwilio Cymru erbyn y dyddiad cau gan ddisgwyl i ganfyddiadau’r archwiliad gael eu hadrodd i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2020. Yn dilyn newid cenedlaethol i drefniadau archwilio ar gyfer cynlluniau grantiau Awdurdod Lleol, roedd trefniadau mewnol priodol yn cael eu trafod gydag Archwilio Mewnol i’w cynnwys yn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2020/21 gan nodi’r dulliau diogelu oedd eisoes ar waith wrth gwblhau’r rhestrau gwirio. Byddai’r trefniadau newydd hefyd yn cael eu hysbysu gan ganfyddiadau proses ardystio grant 2018/19.
Dywedodd Matthew Edwards o Swyddfa Archwilio Cymru fod yr ymateb i’r argymhellion yn galonogol. Byddai’r newidiadau ar ddod i ofynion ardystio Llywodraeth Cymru o 2019/20 ymlaen yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn baich gwaith gan Swyddfa Archwilio Cymru a fyddai’n cael ei adlewyrchu yn y ffi archwilio ardystio grantiau. Tra’r oedd gwaith archwilio’n mynd rhagddo ar hawliadau grantiau 2018/19, adroddwyd cynnydd cadarnhaol ar yr argymhelliad cyntaf o’r cynllun gweithredu o 2017/18.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, rhoddodd Matthew Edwards eglurhad ar y broblem asesu grantiau a ddynodwyd yn flaenorol. Nododd fod hon yn rhan gymhleth o’r broses asesu ac yn broblem mewn cynghorau eraill. Roedd swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru wrthi’n asesu goblygiadau’r trefniadau hynny a byddent yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Mawrth.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi cynnydd y broses Ardystio Hawliadau Grantiau ar gyfer 2018/19;
(b) Nodi’r cynnydd ar gamau gweithredu sy’n codi o adroddiad 2017/18; a
(c) Nodi’r newidiadau a wnaed i Broses Archwiliad Allanol Grantiau o 2019/20.