Mater - cyfarfodydd

Updated Pay Policy Statement for 2019/20

Cyfarfod: 19/11/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 68)

68 Datganiad Diwygiedig Ar Bolisïau Tâl Ar Gyfer 2019/20 pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas: Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r seithfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndirol. Eglurodd bod y Datganiad Polisi Tâl a gyflwynwyd o fewn yr adroddiad yn fersiwn diwygiedig o’r seithfed Datganiad blynyddol a gymeradwywyd gan y Cyngor yn Ionawr 2019. Bu rhaid diweddaru’r polisi tâl i adlewyrchu’r newidiadau mewn tâl ar gyfer cyfran fawr o’r gweithlu o ganlyniad i ymarfer modelu tâl i ddarparu ar gyfer Blwyddyn Dau (2019) o gytundeb tâl NJC.

 

Cyflwynwyd y prif ystyriaethau gan yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Eglurodd, ar ôl gweithredu’r amryw ddyfarniadau tâl cenedlaethol, y gyfradd dâl isaf a werthuswyd gan yr Awdurdod oedd £17,364, ac roedd y cyflog canolig wedi codi i £19,554, a dywedodd fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cau. Eglurodd mai dim ond pum rhan o’r polisi tâl oedd wedi’u diwygio. Roedd pedwar ohonynt yn fân newidiadau oedd yn adlewyrchu newidiadau o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog a gwelliant yn y sefyllfa o ran perthynoledd tâl. Aeth ymlaen i ddweud bod y prif newid i’w weld yn Adran 11 – Cyflog Byw Cenedlaethol (CBC) ynghyd â chyflwyno’r model tâl newydd.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at gwmpas y gwaith. Dywedodd mai’r dyddiad y byddai’r model tâl newydd yn effeithiol oedd 1 Ebrill 2019 ac fe’i gweithredwyd yng Ngorffennaf 2019 (wedi’i ôl-ddyddio i Ebrill 2019). Ymgymerwyd ag Asesiad annibynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb oedd, yn fyr, wedi canfod bod y diwygiad i’r strwythur tâl a graddio yn ddatblygiad cadarnhaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar y cyflog byw cenedlaethol, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at gydymffurfio â’r cytundeb cenedlaethol, ac eglurodd y bu’r Cyngor yn gyflogwr cyflog byw ers Ebrill 2019.  

 

Diolchodd y Cynghorydd Richard Jones i’r Uwch Reolwr a’i thîm am eu gwaith, gan gydnabod yr ymrwymiad i gadw o fewn y gyllideb, rheoli’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ynghyd â’r gwaith a wnaed ar y cyd â’r Undebau Llafur.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2019/20 fel yr oedd wedi’i atodi i’r adroddiad.