Mater - cyfarfodydd

Domestic Energy Programmes

Cyfarfod: 18/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 34)

34 Rhaglenni Ynni Domestig pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi’r diweddaraf am y Rhaglenni Ynni Domestig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad oedd yn crynhoi’r dulliau a ddefnyddiwyd gan dîm Rhaglen Arbed Ynni Domestig y Cyngor i leihau tlodi tanwydd a gwella ansawdd bywyd trigolion Sir y Fflint. Roedd tlodi tanwydd yn cael ei gydnabod fel problem genedlaethol a lleol, fel y blaenoriaethwyd yng Nghynllun y Cyngor, ac yn fwy tebygol o effeithio unigolion oedd yn byw mewn eiddo llai effeithlon o ran ynni.

 

Roedd lleihau tlodi tanwydd yn her sylweddol oherwydd nifer yr eiddo h?n yng Nghymru, oedd yn ddrud i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae tîm y Rhaglen Arbed Ynni Domestig – sy’n cynnwys pum aelod staff – wedi llwyddo i osod 4,600 o fesurau arbed ynni mewn 4,000 o aelwydydd.

 

Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio drosolwg o’r prif raglenni gwaith, gan gynnwys cyflwyno benthyciadau tai LlC tuag at systemau gwresogi newydd i aelwydydd sy’n dioddef o dlodi tanwydd. Eglurodd bod y tîm yn gweithio ag unigolion o bob deiliadaeth eiddo i’w helpu i gael gafael ar gyllid, oedd yn fater cymhleth. Anogwyd yr aelodau i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau’r tîm.

 

Rhoddodd y Cadeirydd enghraifft lle bu i’r tîm helpu preswylydd oedd yn amharod i gael cymorth ar y cychwyn, a arweiniodd at ganlyniad cadarnhaol. Yn ystod y drafodaeth, cafwyd enghreifftiau tebyg gan Aelodau eraill o drigolion oedd wedi elwa ar gymorth y tîm, a diolchwyd iddynt am eu gwasanaethau.

 

Wrth amlygu pwysigrwydd rhannu gwybodaeth am fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gofynnodd y Cynghorydd Heesom i’r adroddiad gael ei rannu â’r Cabinet, gydag adroddiad diweddaru’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen chwe mis.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at adroddiadau blaenorol a gafwyd ar y pwnc. Cytunodd y swyddog i ymateb ar wahân i’w chwestiwn penodol am fesurydd trydan rhagdaledig.

 

Mewn ymateb i ymholiadau, eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y trefniadau cyllid ar gyfer y gwasanaeth, fel y nodir yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at fuddsoddiad y Cyngor mewn mesurau arbed ynni ar gyfer ei stoc dai ei hun a’r gwaith sy’n cael ei wneud gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cynghorydd Heesom a’u heilio gan y Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd a wnaed o ran cyflwyno rhaglenni arbed ynni domestig i helpu aelwydydd sy’n dioddef o dlodi tanwydd yn Sir y Fflint; a

 

(b)       Argymell yr adroddiad i'r Cabinet er mwyn pwysleisio'r camau cadarnhaol sy'n cael eu cymryd gan y Cyngor i leihau tlodi tanwydd a gwella ansawdd bywyd y trigolion.