Mater - cyfarfodydd

Progress Report on Flintshire Micro-Care Pilot

Cyfarfod: 09/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 32)

32 Prosiect ADM Micro-ofal Sir y Fflint pdf icon PDF 151 KB

Pwrpas:        I adrodd ar weithredu Model Darparu Micro-ofal Amgen yn Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (y Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar weithredu Model Cyflawni Amgen Micro-ofal yn Sir y Fflint.Rhoddodd wybodaeth gefndir a gwnaeth sylw ar y pwysau i fodloni’r galw cynyddol am ofal cymdeithasol o ganlyniad i boblogaeth h?n sy’n cynyddu a'r anawsterau a brofir gan asiantaethau gofal o ran recriwtio a chadw gweithwyr.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod wedi sefydlu prosiect peilot mentrau Micro-ofal i fynd i’r afael â’r broblem o gyflenwi gofal ac roedd wedi bod yn llwyddiannus o ran ei geisiadau am gyllid gan Cadwyn Clwyd a Chronfa Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithredu'r prosiect.Byddai’r prosiect peilot yn weithredol tan Fehefin 2021 a gyda Chwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cydweithredol Cymru a budd-ddeiliaid eraill byddai’n cefnogi datblygu mentrau micro-ofal newydd yn Sir y Fflint.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Marianne Lewis, Swyddog Cynllunio a Datblygu ar gyfer Micro-Ofal, a gwahoddodd hi i ddarparu trosolwg o’r prosiect Micro-Ofal.Eglurodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu fod mentrau Micro-ofal yn cael eu diffinio fel cwmnïau bach â phum gweithiwr, gyda nifer ohonynt yn fasnachwyr unigol, yn darparu gwasanaethau gofal neu wasanaethau'n ymwneud â gofal i breswylwyr Sir y Fflint.  Cyfeiriodd at y pwyntiau allweddol yn ymwneud a datblygu'r prosiect Micro-ofal, fel nodir yn yr adroddiad, a dywedodd fod dau swyddog datblygu Micro-ofal wedi eu recriwtio i gyflawni’r peilot a bod Bwrdd Gweithredu wedi ei sefydlu i oruchwylio’r prosiect. Ar hyn o bryd roedd gan chwe unigolyn ddiddordeb mewn dod yn fusnesau Micro-ofal a fyddai’n gweithio i hyrwyddo’r peilot ac ehangu nifer o fentrau Micro-ofal sy’n gweithredu ar draws Sir y Fflint. Hefyd roeddent yn gweithio gyda thri busnes micro-ofal i archwilio cyfleoedd i ddatblygu ymhellach. 

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Martin White yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth eglurodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu y byddai’r prosiect yn cael ei hyrwyddo’n frwd yn y Flwyddyn Newydd drwy rwydweithiau cymunedol lleol.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Tudor Jones sylw ar y galw cynyddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol o ganlyniad i’r cynnydd a ragwelir mewn disgwyliad oes ar gyfer pobl 65 oed a h?n.Gofynnodd ai dim ond ar gyfer pobl oedd yn 65 oed a h?n yr oedd y gwasanaeth Micro-ofal ar gael a chyfeiriodd at y newid yn yr oed yr oedd pobl yn gymwys i hawlio pensiwn y wladwriaeth.Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd eglurodd y Prif Swyddog fod y prosiect yn hyblyg ac y gellid darparu cymorth yn dilyn ceisiadau a wnaed gan unigolion am ofal.Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu os nad Micro-ofal oedd y datrysiad gorau ar gyfer unigolyn yna byddai ef/hi yn cael gwybod beth yw’r opsiynau eraill i gefnogi eu hanghenion. 

 

Yn ystod y trafodaethau ymatebodd Swyddogion i'r sylwadau a’r cwestiynau pellach a godwyd gan Aelodau yn ymwneud â chyllid parhaus i gefnogi/datblygu’r prosiect yn y dyfodol, taliadau uniongyrchol a darparu gofal mewn ardaloedd gwledig.Pwynt allweddol ddaeth i’r amlwg oedd y gobaith y gallai mwy o hyblygrwydd fod yn bosibl; mae'n bosibl y gall busnes micro-ofal  ...  view the full Cofnodion text for item 32